Mae ymwneud â Cyfle Cymru wedi bod yn rhan annatod o'm hadferiad i o gaethiwed i alcohol. Cofrestrais ar y prosiect a rhoddwyd mentor cyfoedion gwych i mi a oedd yn fy neall i. Cymerais ran mewn digwyddiadau a chyrsiau hyfforddi, a oedd yn fy helpu i ennill hyder a gwella fy rhagolygon ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Rwyf nawr yn rhan o'u tîm gwirfoddol yn Abertawe ac rwy'n gobeithio helpu pobl eraill yn [.....]
Storiau Cyfle Cymru
Craig ac Aled: “Dangos addewid mawr yn eu datblygiad parhaus”
Mae Craig ac Aled o Lanelli - sy'n gwneud popeth gyda'i gilydd - wedi magu hyder ers iddynt ddechrau gwirfoddoli gyda Sefydliad Prydeinig y Galon, gyda chymorth Cyfle Cymru. Rhoddodd Cyfle Cymru gyfleoedd i Craig ac Aled dyfu, gan gynnwys diwrnodau adeiladu tîm, glanhau traeth, a chyrsiau iechyd a diogelwch a gwasanaeth cwsmeriaid. Maent wedi cael adborth ardderchog gan eu rheolwr yn y siop, ac maent yn dangos [.....]
Kelly: “Cyffrous wrth ystyried ei dyfodol!”
Manteisiodd Kelly o'r Fenni yn llawn ar y gwasanaethau arbenigol sydd ar gael gan Cyfle Cymru ac mae hi bellach wedi cofrestru i astudio cwnsela yn y coleg. Darparodd Cyfle Cymru gyrsiau oedd yn cynnwys mentora cymheiriaid Lefel 2, sgiliau hyder a sgiliau cyflogadwyedd i Kelly, sy’n 23 oed. O ganlyniad, cafodd Kelly brofiad o weithio shifft yn La Brasserieto, ac mae hi wedi cofrestru yn y coleg ac mae'n [.....]
Dave: “yn ased gwych i’r gwasanaeth!”
Mae Dave o Gasnewydd wedi bod yn gweithio gyda Cyfle Cymru ers tri mis ac mae eisoes yn gwirfoddoli fel mentor cyfoedion! Darparodd Cyfle Cymru hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl, hyfforddiant mentoriaid cyfoedion a hyfforddiant ymyrraeth alcohol i Dave, 48 ac fe'i disgrifiwyd fel ased gwych i'r gwasanaeth. Yma fe welwch ef yn cydlynu'r gwaith adnewyddu diweddar yn yr hwb. Darperir Cyfle [.....]
Alan: “ar daith anhygoel gyda Cyfle Cymru!”
Roedd angen help ar Alan i ddod o hyd i waith, a diolch i Cyfle Cymru, ers mis mae e ar leoliad gwaith gyda chwmni morgais. Gan weithio ochr yn ochr â'i fentor cyfoedion ym Mhont-y-pŵl, cryfhaodd Alan 63 oed ei CV, datblygodd ei sgiliau cyflogadwyedd ac mae yna gyfle iddo gael swydd rhan-amser pan ddaw ei leoliad i ben. Mewn mater o saith mis, cyflawnodd Alan hyn oll wedi iddo fod ar daith anhygoel gyda Cyfle [.....]
Philomena: “erbyn hyn mae gen i bethau gwell i droi atyn nhw”
Rhoddodd Philomena o Port Talbot y gorau i yfed a thrawsnewid ei bywyd gyda chymorth Cyfle Cymru. Mae Philomena, 49, wrth ei bodd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd ar gael trwy CAIS a WCADA, ac mae wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd sy'n dilyn taith debyg. Dywedodd gyda’r gefnogaeth o ansawdd uchel sydd ar gael trwy Cyfle Cymru ei bod wedi ffynnu wrth gwblhau cymwysterau niferus, gan gynnwys cwrs [.....]
John: “rhedeg ei glwb coginio ei hun”
Mae John o Bont-y-pŵl yn gwella o gamddefnyddio alcohol ac wedi bod yn gweithio gyda Cyfle Cymru er mwyn llenwi ei amser. Ers gweithio gyda'i fentor cyfoedion, mae John 46 oed wedi cwblhau tystysgrif Hylendid Lefel 2 ac mae’n gwirfoddoli yng Nghlwb Brecwast Defnyddwyr y Gwasanaeth a Chlwb Garddio’r Goleudy. Mae ymroddiad John i'w ddatblygiad ei hun wedi arwain at y ffaith ei fod yn rhedeg ei glwb coginio ei hun [.....]
Lance: “magodd hunanhyder i arwain ei arddangosfa ei hun”
Yn dilyn ymdrech i ddod o hyd i waith, bu Lance o Gaerffili yn gweithio ochr yn ochr â'i fentor cyfoedion i gynnal digwyddiad sy'n cyflwyno ei waith celf ei hun. Disgrifiodd Lance, 55, ei hun fel artist brwd sy'n hoffi arddangos ei waith ac mae’n disgrifio ei brofiad gyda Cyfle Cymru fel uchafbwyntiau go iawn. Fe wnaeth Cyfle Cymru helpu Lance i ymgymryd â chyrsiau adeiladu hyder, hyfforddiant cyfweliad a [.....]
Helen: “..bellach yn edrych ymlaen at y dyfodol”
Cwblhaodd Helen ei chyfnod dadwenwyno ac mae hi wedi tyfu o fod yn berson ofnadwy o nerfus i fod yn fenyw rhagweithiol a hyderus sy'n edrych ymlaen at ei dyfodol. Roedd Helen, 49, yn ei chael hi'n anodd ymdopi mewn amgylcheddau cymdeithasol a chyfeiriwyd hi at Cyfle Cymru am gefnogaeth arbenigol. Bu'n gweithio gyda mentor Cyfle Cymru yng Nghaerffili a bu’n cymryd rhan mewn boreau coffi, diwrnodau agored, [.....]
Paul: “Mae’n gweithio, os ydych chi’n rhoi’r gwaith i mewn!”
Roedd Paul, 37, yn aflwyddiannus mewn cyfweliad i fod yn fentor cyfoedion, ond yn ddiweddarach mynychodd gwrs Mentora Cyfoedion achrededig trwy Cyfle Cymru. Roedd hyn yn ei alluogi i arddangos ei sgiliau ac ennill cymhwyster sy'n gallu trawsnewid bywydau. Ar ôl gweithio ochr yn ochr â Cyfle Cymru i wella ei dechneg cyfweld, mae Paul wedi'i benodi'n fentor cyfoedion yn Sir Gaerfyrddin. "Rydw i wrth fy modd [.....]