Mae Mike wedi mwynhau cwrdd â phobl newydd a dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli newydd wrth weithio gyda Cyfle Cymru.
Yn ystod y 12 mis diwethaf o weithio gyda Cyfle Cymru, mae Mike o Fae Colwyn wedi ennill sgiliau a chymwysterau newydd mewn ystod o bynciau gwahanol.
Mae Mike, 59, hefyd wedi manteisio i’r eithaf ar y profiadau gwirfoddoli sydd ar gael iddo, gan gynnwys gweithio ar brosiect garddio.
“Rydw i wedi gallu diweddaru fy nghymwysterau a gwella fy C.V.
“Rwyf hefyd wedi cael adborth cadarnhaol gan aelodau’r cyhoedd tra’n gwirfoddoli yn y gymuned” meddai Mike
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, a gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.