Daeth Wayne i Cyfle Cymru ar ôl cael ei gyfeirio gan ei weithiwr allweddol yn y gwasanaeth cyffuriau, lle mae’n derbyn presgripsiwn methadon ar hyn o bryd. Ar ôl ein hasesiad cychwynnol gyda Wayne, daeth hi’n amlwg ei fod yn gwella’n sefydlog ac yn awyddus i gysylltu gydag eraill.
Roedd ganddo ddiffyg hyder ac roedd rhai rhwystrau yn ei ddal yn ôl, felly fe dreulion ni beth amser yn mynd i’r afael â’r rhwystrau hyn fesul un.
Ar ôl gweithio ychydig gyda Wayne fe wnaethon ni ei gyflwyno’n raddol at waith fel nad oedd yn rhy lethol iddo – gan ddechrau gyda lleoliadau profiad gwaith.
Hyd yma mae Wayne wedi treulio pedair wythnos ar brofiad gwaith gyda Newport Transport yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar gerbydau. Mae o’n ei fwynhau cymaint mae o wedi ymgeisio am swydd gyflogedig lawn amser gyda nhw.
“Rydw i’n mwynhau teimlo bod gen i reswm a bod yna rywbeth cadarnhaol yn fy mywyd sy’n gwneud imi godi o’m gwely bob bore,” dywedodd Wayne. “Rydw i’n ddiolchgar iawn i bawb am eu cefnogaeth.
“Rydw i’n gobeithio y caf i’r swydd lawn amser oherwydd dydw i wirioneddol ddim eisiau mynd yn ôl i wneud dim byd, ond wna i ddim rhoi’r gorau!”
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.