• Croeso
  • Newyddion
  • Newid Cam
    • Newid Cam
    • Storiau Newid Cam
  • Cyfle Cymru
    • Am Cyfle Cymru
    • Gwasanaeth Di-Waith Gwent
    • Storiau Cyfle Cymru
    • Cylchlythyrau
  • Yfed Doeth Heneiddio’n Dda
    • Meddwl yn Ddoeth Heneiddio’n Dda
    • Hyfforddwyr MDdHDd yn agos atoch chi
  • Aelodau’r cydgwmni
  • Cyfarwyddwyr
  • Cysylltwch â ni

DACW - Developing a Caring Wales

Providing a complete range of services for people affected by alcohol and drug misuse and mental health difficulties

  • EnglishEnglish
  • CymraegCymraeg

Newyddion

Academi fentora yn ennill gwobr fawr am hyfforddiant

BYDD ACADEMI Mentora Cymheiriaid llwyddiannus Cyfle Cymru yn cael gwobr arbennig gan y Dywysoges Anne. Mae'r Academi yn un o ddim ond 48 o fentrau hyfforddi i dderbyn Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol - sy'n cydnabod dysgu rhagorol yn y gweithle ledled y DU eleni. Mae'r cynllun yn cynnig cymysgedd ymarferol o hyfforddiant yn y gwaith a chymwysterau ffurfiol, ac mae ar gael i bob mentor sy'n gweithio ar [.....]

Clirio mannau harddwch yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr

Bydd dwsinau o wirfoddolwyr o'r prosiect mentora a chyflogadwyedd mwyaf yng Nghymru yn clirio deunydd plastig oddi ar draethau a dyfrffyrdd ar hyd a lled y wlad y mis Mehefin. Bydd yr ymgyrch genedlaethol i waredu deunydd llygrol a sbwriel o rai o'n safleoedd o harddwch mwyaf arbennig yn ran o ddathliadau ein Wythnos Gwirfoddolwyr blynyddol. Mae pawb sy'n cymryd rhan yn gwella o gamddefnyddio sylweddau a [.....]

Mae’r byrddau wedi troi i wirfoddolwyr Cyfle Cymru yn Wrecsam

Mae GWIRFODDOLWYR WRECSAM, gyda phrofiad o gamddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl gwael, yn dychwelyd i'r gymuned a helpu eraill sydd mewn angen. Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â'r sefydliad ailddefnyddio dodrefn di-elw 'Newydd i Chi' (New 2 You) i lanhau, gosod a threfnu dodrefn rhoddedig. Yna mae eitemau o'r cartrefi yn cael eu hail-werthu ar gost isel i aelodau o'r gymuned leol, neu [.....]

Gardd ffrwythau a llysiau newydd diolch i waith gwirfoddolwyr

Mae preswylwyr mewn tai gwarchod yn Wrecsam yn mwynhau gardd ffrwythau a llysiau newydd yn sgil ymdrechion gwirfoddolwyr o Cyfle Cymru. Gweithiodd y grŵp yn y gwres tanbaid i balu a hau llain lysiau newydd i drigolion Uned Tai Gwarchod Springfield yn Rhosddu. Mae’r tenantiaid yn gobeithio cael llwyth toreithiog ar ôl i’r grŵp godi’r gwair, palu dros yr uwchbridd a phlannu cnydau yn y gwely [.....]

Gwirfoddolwyr Cyfle Cymru yn cynnal a chadw’r Globe!

RANGERS SIR Y FFLINT yn ymuno â gwirfoddolwyr Cyfle Cymru i helpu Bwcle i flodeuo. Ddwywaith y mis, mae gwirfoddolwyr Cyfle Cymru a Kaleidoscope Gogledd Cymru yn uno i gwblhau tasgau garddio a thasgau cynnal a chadw ar hen safle diwydiannol ar Globe Way ym Mwcle. Mae'r cyfranogwyr wedi helpu i greu llwybrau cerdded sy'n arwain at y pwll, gan glirio ardaloedd oedd dan chwyn a phlannu blodau gwyllt yn eu lle, a [.....]

Dathlu gwellhad a llwyddiant ym Mryn y Wal

BU I DROS GANT O bobl ddod ynghyd i ddathlu gwellhad a llwyddiant cynllun mentora cyfoedion Cyfle Cymru mewn diwrnod hwyl a barbeciw arbennig. Bu i ddwsinau o unigolion o bob cwr o Ogledd Cymru ymuno gyda phreswylwyr a staff prosiect tai â chymorth Bryn y Wal yn Rhuddlan i fwynhau bwyd, cerddoriaeth, chwaraeon a gweithgareddau. . Bu’n gyfle i aelodau’r grŵp ddod ynghyd i fwynhau golygfeydd ysblennydd Dyffryn [.....]

Gwirfoddolwyr Cyfle Cymru â’r tîm Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

MAE GWIRFODDOLWYR o gwmni Cyfle Cymru wedi bod allan yn torri gordyfiant coedwigoedd yn Erddig ger Wrecsam yn ddiweddar. Ychydig fisoedd yn ôl, roedd y goedwig yn orwyllt o dyfiant coed yn ôl ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol - ond gyda chymorth cyfranogwyr y prosiect mentora cyfoedion, mae’r fflora a’r ffawna bellach yn gallu ffynnu a blodeuo unwaith eto. Ddwywaith y mis, mae gwirfoddolwyr Cyfle Cymru [.....]

Mae gwirfoddolwyr Cyfle Cymru yn paratoi Sw Mynydd Cymru ar gyfer gwyliau hanner tymor

Mae GWIRFODDOLWYR Cyfle Cymru wedi torchi llewys i helpu Sw Mynydd Cymru i baratoi eu meysydd chwarae ar gyfer prysurdeb hanner tymor. Bu cyfranogwyr o'r rhaglen adennill a chyflogadwyedd yn llwytho berfa ar ôl berfa o risgl coed er mwyn sicrhau bod yna ardaloedd glanio meddal addas i blant allu chwarae yn yr atyniad ym Mae Colwyn cyn i wyliau’r ysgol gychwyn. Bob pythefnos, mae tîm o wirfoddolwyr Cyfle Cymru [.....]

Peidiwch â mynd yn addfwyn… Oedolion hŷn sy’n camddefnyddio sylweddau

Sut ydym yn gweithio gydag oedolion hŷn sy'n camddefnyddio sylweddau? Law yn llaw â phoblogaeth sy'n heneiddio, rydym yn gweld cynnydd yng nghyfanswm yr alcohol y mae'r grŵp oedran Dros 50 oed yn ei yfed, ynghyd ag arferion defnyddio meddyginiaeth ar bresgripsiwn a chyffuriau anghyfreithlon. Ni fydd oedolion hŷn sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn cael yr un sylw â chamddefnyddwyr sylweddau iau, ac mae'n [.....]

Aelodau o DACW yn cytuno ar gynllun gweithredu ar fentanyls

BU I AELODAU consortiwm Datblygu Cymru Gofalgar (DACW) gytuno ar gynllun gweithredu i helpu mynd i'r afael gyda'r risg dichonol gan y teulu fentanyl o opioidau synthetig. Mae'r grŵp, sy'n gyfuniad o asiantaethau sector gwirfoddol adnabyddus o bob cwr o'r wlad, wedi cytuno ar chwe blaenoriaeth er mwyn rhoi'r gorau i'r defnydd o'r sylweddau hyn, sy'n llawer cryfach na heroin. Does dim tystiolaeth i awgrymu caiff [.....]

  • 1
  • 2
  • Tudalen Nesaf »

Swyddi Diweddar

  • Academi fentora yn ennill gwobr fawr am hyfforddiant
  • Clirio mannau harddwch yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr
  • Martin Blakebrough – Prif Weithredwr, Kaleidoscope, a Chadeirydd DACW

Tanysgrifio drwy e-bost

Rhowch eich cyfeiriad e-bost i derby hysbysiadu o swyddi newydd drwy e-bost.

Os gwelwch yn dda rhannu DACW

Copyright/Hawlfraint © 2022 DACW

MENU
  • Croeso
  • Newyddion
  • Newid Cam
    • Newid Cam
    • Storiau Newid Cam
  • Cyfle Cymru
    • Am Cyfle Cymru
    • Gwasanaeth Di-Waith Gwent
    • Storiau Cyfle Cymru
    • Cylchlythyrau
  • Yfed Doeth Heneiddio’n Dda
    • Meddwl yn Ddoeth Heneiddio’n Dda
    • Hyfforddwyr MDdHDd yn agos atoch chi
  • Aelodau’r cydgwmni
  • Cyfarwyddwyr
  • Cysylltwch â ni