Mae GWIRFODDOLWYR WRECSAM, gyda phrofiad o gamddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl gwael, yn dychwelyd i’r gymuned a helpu eraill sydd mewn angen.
Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’r sefydliad ailddefnyddio dodrefn di-elw ‘Newydd i Chi’ (New 2 You) i lanhau, gosod a threfnu dodrefn rhoddedig.
Yna mae eitemau o’r cartrefi yn cael eu hail-werthu ar gost isel i aelodau o’r gymuned leol, neu maen nhw’n cael eu rhoi ar ffurf ‘pecynnau cychwyn’ i’r digartref, Cymorth i Fenywod ac oedolion ifanc sy’n dod allan o ofal, gan roi nwyddau hanfodol iddynt er mwyn sefydlu cartref ac ail ddechrau ar eu bywydau.
Dywedodd Rita Walker, sy’n rhedeg ‘Newydd i Chi’ “Mae’r gwirfoddolwyr yn amhrisiadwy i ni ar rai dyddiau!
Oherwydd ein bod yn sefydliad di-elw, rydym yn dibynnu arnynt er mwyn ein helpu i weithio drwy’r stoc sy’n dod i mewn “.
Ar hyn o bryd, mae Daniel Brown, sy’n cael ei adnabod fel ‘Boots’, yn aros yn St John’s House ac mae’n gwirfoddoli gyda Cyfle Cymru yn wythnosol.
Dywedodd Daniel, 34 oed: “Rydw i wedi bod yn gwirfoddoli gyda ‘Newydd i Chi’ bob pythefnos ers rai misoedd rŵan am ei fod yn ffordd o wneud i mi adael y tŷ ac mae’n rhoi rhywbeth i mi wneud”.
“Dydy gwaith garddio awyr agored ddim i mi, felly mae hyn yn rhywbeth gwahanol rwy’n ei fwynhau” meddai.
Mae Cyfle Cymru yn cefnogi unigolion wrth ddatblygu hyder, ennill cymwysterau a chwilio am gyfleoedd gwaith.
Mae’r prosiect yn gweithio ochr yn ochr â chwmnïau lleol i gynnal amrywiaeth o gyfeloedd gwirfoddoli, o waith garddio a chynnal a chadw tir, i waith manwerthu a chlybiau cerdded.
Dywedodd mentor cymheiriaid Cyfle Cymru, Lynn Shearer: “Yn y dref, efallai y bydd rhai o’r cyfranogwyr yn cael eu adnabod fel rhai digartref ac felly bydd pobl yn dueddol o’i hosgoi, ond pan ddônt yma, mae pobl yn gofyn am eu help o gwmpas y siop ac mae hynny’n gwneud iddyn nhw deimlo’n ddefnyddiol! Mae’r math hyn o waith yn rhoi ymdeimlad o normalrwydd sydd o bosib ar goll ym mywydau’r gwirfoddolwyr.
Mae’r prosiect mentora cyfoedion a ariennir gan yr UE yn cydnabod gwerth darparu cyfleoedd gwirfoddoli i unigolion a chynnal nifer o ddigwyddiadau ledled Cymru.
Ydych eisiau gwybod mwy am Cyfle Cymru yn eich ardal leol? Cliciwch yma!
Darperir Cyfle Cymru gan aelodau o Gonsortiwm DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Wasanaeth Di-Waith Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.