Martin ydy prif weithredwr Kaleidoscope sy’n cefnogi pobl sydd â phroblemau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru, yn ogystal â Kingston. Mae Kaleidoscope yn cynnig gwasanaethau preswyl, cefnogaeth feddygol a sesiynau cefnogaeth seico-gymdeithasol.
Martin ydy cadeirydd y grŵp Cymraeg Sgiliau er Cyfiawnder ac mae ganddo brofiad o gefnogi pobl sydd â phroblemau cyffuriau ac alcohol. Mae o hefyd yn aelod o Fwrdd Sgiliau er Cyfiawnder Prydain.
Cafodd Martin ei eni yn West Ham a’i swydd gyntaf oedd gweithio fel gweithiwr cymunedol yn Nwyrain Llundain. Penderfynodd yna hyfforddi fel Gweinidog y Bedyddwyr a bu iddo arwain eglwys yn Rossendale, Swydd Gaerhirfryn. Yn 1993 fe symudodd i Kingston a daeth yn Weinidog ar Eglwys y Bedyddwyr John Bunyan ac yn ddirprwy gyfarwyddwr i Kaleidoscope. Daeth Martin yn brif weithredwr i Kaleidoscope yn 1998 gan arwain yr elusen at sefydlu gwasanaethau ar draws Cymru.
Yn 2002, bu i Martin gyflawni cwrs Meistr mewn Rheoli Gofal Cymunedol ac erbyn hyn mae’n aelod o Fwrdd Reach, sy’n rhan o’r grŵp Seren. Mae wedi bod yn llywodraethwr ysgol, cynghorydd Cyngor Sir, aelod o’r Cyngor Cynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau (ACMD) ac Ymgeisydd Seneddol ar gyfer Trefynwy.
Yn ei amser hamdden mae’n treulio llawer o’i amser gyda’i glwb rhedeg lleol, the Spirit of Monmouth. Mae wrth ei fodd gyda phêl-droed a chanddo docyn tymor i wylio Cymru, mae’n hoffi mynd i sgïo ac yn mwynhau treulio amser gyda’i deulu.
Yn 2014 treuliodd Martin ddau fis yn Uganda fel rhan o fenter gan Lywodraeth Cymru.