Ymunodd Rachael â Cyfle Cymru ym mis Tachwedd y llynedd a dechreuodd weithio gyda'i mentor cyfoed, Lisa, i adeiladu ar ei hyder. Ar y dechrau, roedd Rachael yn teimlo'n nerfus iawn ac yn ei chael yn anodd ymuno â gweithgareddau Cyfle Cymru a gynhaliwyd yn Byddin yr Iachawdwriaeth yn Y Rhyl. Wrth i'r wythnosau fynd heibio, fe wnaeth hyder Rachael dyfu ac yn y diwedd roedd yn gallu ymuno â gweithgareddau'r grŵp a [.....]
Storiau Cyfle Cymru
Mari: “Nawr rwy’n gallu chwilio am waith yn y dyfodol”
Pan oedd Mari o Gaernarfon yn ddigartref yn 2018 a trodd at Cyfle Cymru am help i ddod o hyd i waith. Ers hynny, mae wedi bod yn mynychu'r cyrsiau hyfforddi arbenigol y mae Cyfle Cymru yn rhedeg ym Mangor ddwy waith yr wythnos ac mae wedi mwynhau bob un cwrs yn llwyr. Mae'r cyrsiau wedi bod yn hwb mawr i'w hyder ac mae ganddi bellach gymwysterau newydd i'w ychwanegu at ei C.V. Meddai Mari: "Bydd yn help mawr [.....]
Sarah: “dyna’n union yr oeddwn ei angen yn fy mywyd”
Cyn ymgysylltu â Cyfle Cymru, roedd Sarah o Sir y Fflint yn teimlo'n unig ac yn ei chael hi'n anodd symud ymlaen gyda’i hadferiad. Mynychodd nifer o sesiynau un i un, gweithiodd yn galed gyda'i mentor cyfoedion i adeiladu ar ei hyder a llwyddodd i fynychu sesiwn galw heibio ar ei phen ei hun. Parhaodd i gymryd rhan yn wythnosol gyda'r prosiect ac o ganlyniad darganfu bod popeth yn ei bywyd yn gwella. Ers [.....]
Mike: “adborth cadarnhaol gan aelodau’r cyhoedd”
Mae Mike wedi mwynhau cwrdd â phobl newydd a dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli newydd wrth weithio gyda Cyfle Cymru. Yn ystod y 12 mis diwethaf o weithio gyda Cyfle Cymru, mae Mike o Fae Colwyn wedi ennill sgiliau a chymwysterau newydd mewn ystod o bynciau gwahanol. Mae Mike, 59, hefyd wedi manteisio i'r eithaf ar y profiadau gwirfoddoli sydd ar gael iddo, gan gynnwys gweithio ar brosiect garddio. "Rydw i [.....]
John: “helpu i fwrw ymlaen a chael dyfodol gwell”
Trodd John o Gas-gwent at Cyfle Cymru am rai syniadau a chymorth er mwyn symud ymlaen o gyfnod o afiechyd a bod yn ynysig. Mae wedi mynychu llawer o weithdai ac wedi cwblhau cyrsiau hyfforddi ar-lein a gefnogir gan Cyfle Cymru. Mae John, 62, hefyd wedi derbyn adnoddau addysgol a gwybodaeth gan Cyfle Cymru a chefnogaeth ynglŷn â'i sefyllfa yn y Ganolfan Byd Gwaith ac ESA. "Rydw i am ddweud ychydig o eiriau o [.....]
Ian: “Bydd hyn yn gwella fy addysg a fy helpu i ennill swydd”
Mae Ian o Benllech yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd gan Cyfle Cymru i'w cynnig, er mwyn ceisio cael gwaith a chwrdd â phobl newydd. "Roedd angen cymorth arnaf i chwilio am waith, hyfforddi a llenwi fy amser, felly cefais fy nghyflwyno i'm mentoriaid cyfoedion Owen a Hari.” meddai Ian, 51. "Ers ymuno â Cyfle Cymru, rwyf wedi bod yn mynychu amrywiol gyrsiau ac wedi cwblhau fy CSCS, gan lwyddo ar fy [.....]
Melanie: “Mae gen i swydd rwy’n ei fwynhau!”
Cyfeiriwyd Melanie at Cyfle Cymru gan ei hyfforddwr gwaith yn 2017 ac mae bellach yn gwneud gwaith mae hi'n ei fwynhau. Roedd angen help ar Melanie, 40 i godi ei hyder a meithrin y sgiliau i chwilio am waith. Ers bod ar brosiect Cyfle Cymru, mae Melanie wedi cwblhau cwrs cyfrifiadurol gyda Choleg Menai, wedi mynychu cwrs cymorth cyntaf gyda Croes Goch Prydain ac wedi cwblhau cwrs MEE. Mae hi hefyd wedi [.....]
Kelly: “nad yw’n frawychus i siarad am bethau”
Mae Kelly o Wrecsam wedi bod yn gweithio gyda’r mentor cyfoedion, George, am 3 mis ac mae eisoes wedi gweld cynnydd yn ei hyder o gwmpas pobl eraill. Mae'r gweithgareddau a chyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael i Kelly trwy Cyfle Cymru wedi caniatáu iddi gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd. Mae Kelly, 26 oed, hefyd yn ymgymryd â chefnogaeth mentor cyfoedion un i un yn Nhŷ'r Pencampwyr (Chmapions' [.....]
Sharon: “edrych ymlaen at helpu eraill”
Sharon, 36 "Fe'm cyfeiriwyd at CAIS gan fod fy mywyd yn brysur fynd allan o reolaeth ac rwyf bellach wedi cael cymorth gan Jo Woodward o CAIS am 3 blynedd a hanner nawr. "Mae hi wedi bod yn gefnogaeth enfawr i mi ac mae wedi fy helpu i wyrdroi mywyd. "Rydw i rŵan wedi dechrau gwirfoddoli gyda Jo yn sesiynau galw heibio Cyfle Cymru yn fy ardal leol yn Llanrwst ac rwy'n edrych ymlaen at wneud mwy o gyrsiau yn [.....]
Nicole: “bellach yn ôl yn gweithio”
Cyn troi at Cyfle Cymru, roedd Nicole yn dioddef o ddiffyg hyder ac yn cael trafferth dod o hyd i swydd. Gyda chymorth ei mentor cymheiriaid, mae hi bellach yn ôl yn gweithio. Mynychodd Nicole, 19, rai o'r cyrsiau hyfforddi achrededig a gynhaliwyd gan Cyfle Cymru gan gynnwys y cwrs hyder personol. Dechreuodd wirfoddoli ar fferm, wnaeth hefyd ei helpu i fagu hyder a chwrdd â phobl newydd. Gyda'r hyder newydd [.....]
- 1
- 2
- 3
- …
- 6
- Tudalen Nesaf »