Mae Ian o Benllech yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd gan Cyfle Cymru i’w cynnig, er mwyn ceisio cael gwaith a chwrdd â phobl newydd.
“Roedd angen cymorth arnaf i chwilio am waith, hyfforddi a llenwi fy amser, felly cefais fy nghyflwyno i’m mentoriaid cyfoedion Owen a Hari.” meddai Ian, 51.
“Ers ymuno â Cyfle Cymru, rwyf wedi bod yn mynychu amrywiol gyrsiau ac wedi cwblhau fy CSCS, gan lwyddo ar fy ymgais gyntaf. Bydd hyn yn gwella fy addysg ac yn fy helpu i ddod o hyd i waith.
“Rwy’n gweld mentor cymheiriaid, Beverly Jones yn wythnosol yng Nghlwb Swyddi Llangefni lle mae wedi fy helpu gyda fy CV a gwneud ceisiadau am waith”
“Rwyf hefyd yn awyddus i wneud y diwrnodau gwirfoddol misol gan fy mod i’n cael gymaint o fwynhad a chwrdd â phobl newydd. Mae hefyd yn fy helpu i fynd allan a rhyngweithio â phobl eraill tebyg i mi”
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, a gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.