Mae Barod (yn gynt Drugaid Cymru) yn ddarparwr triniaeth camddefnyddio sylweddau arloesol sydd wedi bod yn helpu pobl a chymunedau i daclo problemau cyffuriau ac alcohol yn ne Cymru ers dros 40 mlynedd.
Ein gweledigaeth ydy dod â newid cadarnhaol a chynaliadwy i’n pobl a’n cymunedau er mwyn cefnogi uchelgeisiau ac anghenion y rhai sydd wedi’i heffeithio gan eu problemau camddefnyddio cyffuriau neu alcohol eu hunain neu broblemau rhywun arall. Rydym ni’n ceisio gwneud hynny trwy gynnig cyfleoedd sy’n lleihau niwed ac yn cynyddu gwydnwch
Cyfeiriad: Barod, 73/74 Stryd Mansel, Abertawe. SA1 5TR
Rhif ffôn: 01633 439813 | Gwefan: barod.cymru
Mae CAIS yn ceisio newid bywydau pobl sydd wedi’i heffeithio gan gyffuriau, alcohol ac unrhyw her arall mewn bywyd. Mae’n ceisio gwneud hyn trwy nifer o wahanol wasanaethau a chefnogaeth sydd wedi’u darparu gan staff profiadol a medrus, trwy gredu bod modd i bobl newid a’u bod nhw wirioneddol yn gwneud hynny.”
Mae CAIS yn elusen gofrestredig ac yn ddarparwr blaenllaw yn y sector gwirfoddol ar gyfer gwasanaethau cyffuriau ac alcohol yng Nghymru. Rydym ni’n helpu pobl sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi gyda faint o alcohol neu gyffuriau maen nhw’n ei ddefnyddio, yn ogystal â chynnig cefnogaeth a gwybodaeth i’w teuluoedd a’u ffrindiau. Mae ein gwasanaethau amrywiol yn cynnwys triniaeth ac adferiad preswyl, cwnsela un-i-un, mentora cyfoedion, cefnogi pobl yn eu cartrefi, cynorthwyo pobl i fynd yn ôl i fyd gwaith neu addysg, gwaith grŵp a sesiynau ysgogi byr. Fe allwn ni hefyd gynnig llawer iawn o wahanol gyrsiau hyfforddi, ynghyd ag hyfforddiant a chefnogaeth i gyflogwyr. Rydym ni’n gweithio llawer yn y byd gwaith trwy ein Rhaglen Waith a thrwy ddatblygu ein mentrau cymdeithasol ein hunain. Mae ein gwasanaeth Parabl yn cynnig therapi siarad i bobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol. Mae CAIS yn ymrwymo i gydweithio mewn partneriaeth gydag eraill trwy gadw at y Strategaeth Cymru Gyfan – Mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Mae ein holl wasanaethau yn ceisio helpu pobl i ailafael ar fywydau cyffredin a chynhyrchiol ac rydym ni’n credu bod modd i bobl newid a’u bod nhw wirioneddol yn gwneud hynny.
Ewch i’n gwefan – www.cais.co.uk – am fwy o wybodaeth am ein gweithgareddau.
Mae CAIS hefyd yn gweithredu Parkland Place, adsefydlu preifat ar gyfer pobl sydd â phrofiad o gaethiwed i alcohol, caethiwed i gyffuriau, caethiwed i gamblo ac amodau ymddygiadol niweidiol eraill, yn Hen Golwyn; yn annibynnol, yn cael ei reoli’n feddygol ar gyfer materion caethiwed i gyffuriau ac alcohol yn yr Salus Withnell Hall yn swydd Gaerhirfryn; ac uned ddadwenwyno hirsefydledig Hafan Wen yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Cyfeiriad: CAIS, Tŷ Dafydd Alun, 36 Rhodfa’s Tywysog, Bae Colwyn. LL29 8LA
Rhif ffôn: 01492 863 000 | Gwefan: www.cais.co.uk
Hafal ydy’r prif fudiad yng Nghymru sy’n gweithio gyda phobl sy’n gwella o broblemau iechyd meddwl difrifol a’u teuluoedd. Fe gawn ni ein rheoli gan y bobl rydym ni’n eu cefnogi – pobl gyda phroblemau iechyd meddwl difrifol a’u teuluoedd.
Bob dydd rydym ni’n helpu dros 1,000 o bobl sydd wedi’i heffeithio gan iechyd meddwl difrifol: mae hyn yn cynnwys sgitsoffrenia, anhwylder deubegwn ac anhwylderau eraill sydd gan amlaf yn cynnwys seicosis neu lefel uchel o ofal, sydd efallai’n gofyn am driniaeth mewn ysbyty.
Cafodd Hafal ei sefydlu gyda’r gred mai’r bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o iechyd meddwl sy’n gwybod orau sut mae angen darparu gwasanaethau. Mae Hafal yn cynnig cefnogaeth ar draws saith ardal y byrddau iechyd lleol yng Nghymru ac yn ymrwymo i helpu pobl gyda phroblemau iechyd meddwl difrifol a’u teuluoedd a rhoi iddyn nhw’r arfau i wneud y canlynol:
- cael safon bywyd gwell
- gwireddu eu huchelgais o wella
- ymladd yn erbyn gwahaniaethu
- derbyn gwasanaethau yn deg, er enghraifft, gofal iechyd a chymdeithasol, tai, cyflog, addysg a gwaith
Mae Hafal yn cynnig llawer o wahanol wasanaethau i bobl gyda salwch iechyd meddwl difrifol gan gynnwys cefnogaeth a chyngor uniongyrchol, cefnogaeth mewn argyfwng, cyswllt gyda phobl eraill dros y ffôn, eiriolaeth, cefnogaeth grŵp, cyflwyno pobl i wneud ffrindiau a phrosiectau gwaith a hyfforddiant. Rydym ni hefyd yn rhoi llais sydd wirioneddol ei angen ar gleientiaid wrth lunio gwasanaethau iechyd meddwl.
Mae ein Rhaglen Wella yn sail i’n gwasanaethau i gleientiaid, teuluoedd ac aelodau. Mae’r rhaglen wedi’i llunio ar egwyddorion cyfoes o hunan-reoli a grymuso. Mae’n annog cleientiaid a theuluoedd i wella gyda chymorth staff Hafal a chefnogwyr eraill trwy ddilyn dull mwy trefnus o wella bob agwedd o fywyd.
Yn ogystal â chynnig gwasanaethau, mae Hafal yn ymgyrchu’n gryf trwy waith ymchwil, cyhoeddiadau a gwaith gyda’r cyfryngau er mwyn gwella gwasanaethau i gleientiaid a theuluoedd a chael gwared ar y gwarthnod a’r teimlad o fod ar wahân sy’n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl difrifol.
Cyfeiriad: Hafal, Uned B3, Parc Technoleg Lakeside, Ffordd y Ffenics, Llansamlet, Abertawe SA7 9FE
Rhif ffôn: 01792 816600 | Gwefan: www.hafal.org
Gweledigaeth Kaleidoscope ydy cynnig gwasanaethau sy’n gwella bywydau i bobl yn eu cymunedau eu hunain. Yn bennaf, rydym ni’n cefnogi pobl gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol ac yn eu galluogi i newid eu bywydau er gwell. Mae parch tuag at bawb wrth wraidd ein gwaith.
Cyfeiriad: Prosiect Kaleidoscope, Tŷ Integra, Llys Vaughan, Celtic Springs, Casnewydd, NP10 8BD
Rhif ffôn: 01633 811950 | Gwefan: www.kaleidoscopeproject.org.uk
Ers 20 mlynedd bellach rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda dioddefwyr cam-drin domestig, trais, camdriniaeth rywiol, cam-fanteisio a throsedd casineb.
Rydyn ni’n angerddol, yn uchel ein cymhelliant ac yn benderfynol o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy ddarparu’r cymorth a’r eiriolaeth ymaferol ac effeithiol y mae eu hangen arnynt.
Ein nod yw atal problemau heddiw rhag troi’n argyfyngau yfory. Mae hyn yn arbed symiau sylweddol o arian, yn arbennig i’r coffrau cyhoeddus.
Mae ein tîm ymroddedig ac ymrwymedig o staff a gwirfoddolwyr wedi helpu degau o filoedd o bobl o bob oedran, rhyw a chefndir, gan gynnwys dioddefwyr cam-drin domestig, gweithwyr rhyw, dioddefwyr troseddau casineb a chyn-droseddwyr.
Cyfeiriad: Llawr 1af, Tŷ Castell, Stryd Castell, Caerdydd CF10 1BS
Rhif ffôn: 029 2022 0033 | Gwefan: www.cymruddiogelach.com/
Mae WCADA wedi cefnogi pobl sydd wedi cael eu effeithio gan gamddefnyddio alcohol a chyffuriau am bron 40 mlynedd, yn wreiddiol o swyddfa fach yn Abertawe i chwe asiantaeth dros Abertawe, Castell Nedd, Port Talbot a Phen-y-Bont. WCADA yw un o’r asiantaethau trin camddefnyddio sylweddau arweiniol yng Nghymru sy’n darparu ystod eang o ymyriadau i oedolion, plant a phobl ifanc a theuluoedd o amgylch Bae Gorllewin ac i unigolion yn y system cyfiawnder troseddol.
Mae WCADA yn hefyd rhoi cyfleoedd i bobl i ddysgu sgiliau newydd, gwella hunan-barch a hyder ac hefyd yn helpi pobl sydd eisiau addysg mwy ffurfiol, hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth dan ein gwasanaeth Cyfle Cymru. Mae gwella gwybodaeth ac arbenigedd yn cael ei gyflawni trwy ein rhaglen wirfoddolwyr a’n rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i staff a sefydliadau eraill.
Mae WCADA yn brofiadol yn ei gwaith ar draws y system cyfiawnder troseddol, gyda gweithwyr Dyfodol mewn pob garchar cyhoeddus yng Nghymru, wedi darparu gwasanaethau i’r Gwasanaeth Prawf ar draws Abertawe, Castell Nedd, Port Talbot a Phen-y-Bont am nifer sylweddol o flynyddoedd ac may gennym staff yn gweithio yn y Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc ym Mhort Talbot a Phen-y-Bont, ac yn Hillside yng Nghastell Nedd.
Rydym wrth ein bodd i gyflawni PQASSO Lefel 1 a’r Buddsoddwyr mewn Pobl Arian yn 2018. Rydym mor falch i fod yn ganolfan achrededig Agored Cymru. Ein prif gryfderau yw ein staff sy’n angerddol ac ymroddedig i ddarparu gwasanaethau effeithiol i’n defnyddwyr gwasanaeth, sydd yn gweithio’n galed i gyflawni canlyniadau cadarnhaol o’r fath drostynt eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau.
Cyfeiriad: WCADA Ltd, 41/42 St. James Crescent, Uplands, Abertawe SA1 6DR
Rhif ffôn: 01792 646421 | Gwefan: www.wcada.org