Bydd dwsinau o wirfoddolwyr o’r prosiect mentora a chyflogadwyedd mwyaf yng Nghymru yn clirio deunydd plastig oddi ar draethau a dyfrffyrdd ar hyd a lled y wlad y mis Mehefin.
Bydd yr ymgyrch genedlaethol i waredu deunydd llygrol a sbwriel o rai o’n safleoedd o harddwch mwyaf arbennig yn ran o ddathliadau ein Wythnos Gwirfoddolwyr blynyddol.
Mae pawb sy’n cymryd rhan yn gwella o gamddefnyddio sylweddau a chyflyrau iechyd meddwl ac yn cymryd rhan ym mhrosiect mentora cyfoedion a chyflogadwyedd Cyfle Cymru.
Mae’r rhaglen, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn defnyddio mentora cyfoedion, cymorth wedi’i deilwra’n bersonol a gwirfoddoli i helpu pobl i fagu hyder, ennill cymwysterau a symud tuag at ac i mewn i gyflogaeth yn llwyddiannus.
Bydd timau o bob cwr o Ogledd Cymru yn ymgasglu ym Mhorth Eirias ym Mae Colwyn i glirio deunyddiau plastig a sbwriel oddi ar y traeth, tra bydd cyfranogwyr Cyfle Cymru o Gwent yn casglu sbwriel yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd rhwng aber Afon Hafren ac Afon Wysg.
Mae gwirfoddolwyr ym Mhowys yn cynllunio nifer o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos gan gynnwys taith natur a glanhau Camlas Maldwyn.
Yn ardal Dyfed, bydd timau’n cwrdd ar rai o’r traethau yr effeithir arnynt waethaf gan sbwriel – gan gynnwys Niwgwl a Broadhaven yn Sir Benfro, ac Aberystwyth.
Bydd gwirfoddolwyr o ardal Bae’r Gorllewin ac o ranbarthau Cwm Taf a Chaerdydd a Bro Morgannwg, lle mae prosiect tebyg yn cael ei gyflwyno gan Gofal, hefyd yn ymuno â’r ymdrech.
Pryderu
Dywedodd Marian Williams, cydlynydd y rhaglen, fod y prosiect yn bwnc trafod poblogaidd gyda chyfranogwyr prosiect Cyfle Cymru.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym i gyd wedi dod yn llawer mwy ymwybodol o’r niwed y mae sbwriel yn ei wneud i’n hamgylchedd – yn enwedig y deunyddiau plastig yn ein hamgylchedd morol a’n dyfrffyrdd,” meddai.
“Mae pobl sy’n cymryd rhan ym mhrosiect Cyfle Cymru yn pryderu am ein bywyd gwyllt, ein tirwedd a’n hamgylchedd, ac maent yn awyddus iawn i helpu i fynd i’r afael â’r bygythiad hwn – dyna pam rydym mor falch o gymryd rhan mewn sesiwn casglu sbwriel genedlaethol yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr 2019.
“Rydym yn gobeithio y gall y digwyddiadau hyn helpu i ddangos – gyda’r gefnogaeth gywir – y gall pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o fyw gyda phrofiadau o gamddefnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl wneud cyfraniad uniongyrchol a chadarnhaol i’n cymunedau ac i unrhyw weithle.”
Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn cynnig cyfle i ddathlu a dweud diolch am y cyfraniad gwych y mae miliynau o wirfoddolwyr yn ei wneud ar draws y DU, ac mae’n rhedeg o 1 Mehefin i 7 Mehefin bob blwyddyn.
Am fwy o wybodaeth am Cyfle Cymru cliciwch yma, drwy ffonio 0300 777 2256, anfon e-bost ask@cyflecymru.com neu chwiliwch am Cyfle Cymru ar gyfryngau cymdeithasol.
Darperir Cyfle Cymru gan aelodau o Gonsortiwm DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Wasanaeth Di-Waith Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.