Mae DACW, Datblygu Cymru gofalgar, yn gydgwmni o Gymru sy’n cynnig llawer o wasanaethau gwahanol i bobl sydd wedi’i heffeithio gan broblemau camddefnyddio alcohol a chyffuriau ac iechyd meddwl.
Mae DACW yn cynnwys llawer o asiantaethau o’r sector gwirfoddol ar draws Cymru. Cafodd y cydgwmni ei sefydlu er mwyn:
- annog datblygu mentrau ar y cyd
- cefnogi gwaith codi arian
- annog gwaith ymchwil a datblygu
- helpu i symleiddio gwasanaethau craidd a gwneud arbedion maint
- ei gwneud hi’n haws derbyn hyfforddiant ac achrediad
Mae DACW yn sicrhau:
- ymrwymiad gan yr holl asiantaethau i ddarparu’r gwasanaethau gorau ar draws Cymru
- gwahanol egwyddorion, ond yr un dull o drin gwaith ymchwil, casglu data a thystiolaeth o arfer da
- darparu gwasanaethau yn gost-effeithiol ar draws Cymru
- nerth, drwy siarad fel un llais dros y sector
- cyfleoedd i weithwyr ddatblygu yn eu gwaith
Nodau a Gweithgareddau
Rydym ni’n bwriadu:
- datblygu a darparu arfer da wrth gynnig triniaeth i rai sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl, rheoli perfformiad yn ogystal â datblygu a hyfforddi staff
- sicrhau, tendro a rheoli cytundebau ar gyfer gwasanaethau ledled Cymru ar ran yr aelodau
- hyrwyddo a gweithio gyda hawliau pobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl
- sicrhau bod y rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau yn rhan o waith cynllunio a darparu’r gwasanaethau
- hyrwyddo ac ymgymryd â gwaith ymchwil a chyhoeddi canlyniadau defnyddiol sy’n deillio ohono
- hyrwyddo arloesedd er lles y rhai sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl
Os oes gennych chi ddiddordeb yng ngwaith DACW neu eisiau gwybod mwy am ymaelodi gyda ni, cysylltwch â Clive Wolfendale, ysgrifennydd DACW, drwy ffonio 01492 863 007.