Mae’r pandemig COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar lawer o’n bywydau a gall Gwasanaeth Di-waith Gwent helpu chi os ydych chi yn un o’r rhai sydd wedi’i effeithio yn negyddol. Os ydych chi wedi cael ei rhoi ar ffyrlo, neu os ydych wedi bod yn ddi-waith am gyfnod byr, mae’r cynllun yma, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru yn anelu i helpu chi i gael yn ôl ar eich traed.
Pwy sy’n gymwys?
Gallwn ni cefnogi chi tuag at ac i mewn i waith os ydych:
- yn 25+.
- yn byw yng Ngwent.
- wedi cael ei rhoi ar ffyrlo, neu os ydych wedi bod yn ddi-waith am gyfnod byr.
- wedi profi anawsterau gyda’ch iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau.
Mae ein tîm yn cynnwys sefydliadau sy’n arbenigo mewn camddefnyddio sylweddau a chyflyrau iechyd meddwl. Ffocws ein gwasanaeth yw adeiladu hyder a chefnogi cyfranogwyr yn ôl i waith. Bydd cyfranogwyr yn cael cyfleoedd i:
- gymryd rhan mewn gweithdai ar-lein (Pynciau yn cynnwys Rheoli Gwrthdaro & Gosod Nodau).
- gweithio gydag ein Harbenigwyr Cyflogadwyedd ar ysgrifennu CVs, Technegau Cyfweliad, Chwilio am swyddi a mwy.
- uwchsgilio ac ennill cymwysterau trwy gyrsiau hyfforddiant ar-lein.
- adeiladu hyder trwy gael mynediad i gyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau gwaith.
- siarad hefo mentoriaid cyfoed sy’n gallu cynnig cyngor ac arweiniad ar gyflogadwyedd a lles mewn sesiynau un-i-un.
Meddwl gallwch chi elwa o’r gwasanaeth yma?
Gallwch chi lenwi allan ffurflen atgyfeirio yma.
Os hoffech chi wybod mwy, plîs cysylltwch â: info@gwentoows.com.
Gallwch chi hefyd ffeindio ni ar gyfryngau cymdeithasol: