Mae YFED YN DDOETH HENEIDDIO’N DDA yn rhaglen bartneriaeth wedi’i hariannu gan y Loteri Fawr sy’n helpu pobl i wneud penderfyniadau iachach gydag alcohol wrth iddyn nhw heneiddio. Ein gweledigaeth ydy y bydd y niwed y mae alcohol yn ei achosi yn lleihau ymysg ein poblogaeth hŷn, ac y byddan nhw’n byw bywydau hirach ac iachach.
Rydym ni’n ymwybodol o’r cynnydd yn nifer yr alcohol y mae’r boblogaeth dros 50 yn ei yfed, y gwarthnod a’r cywilydd sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio, a’r cyswllt rhwng cyfnodau o drawsnewid sy’n gysylltiedig ag oedran fel profedigaeth, diswyddiad, ymddeoliad, bod ar wahân yn gymdeithasol ayb.
Mae Cwm Taf yn un o bum ardal arddangos ar draws Prydain sy’n darparu’r ymgyrch hwn ar aml-lefel er mwyn mynd i’r afael â defnydd alcohol ymysg pobl sydd dros 50.
CLICIWCH YMA i weld gwefan y prosiect, darllen ein blog, a dysgu mwy am Yfed yn Ddoeth Heneiddio’n Dda.
Darpariaeth leol gan DACW
Yn ogystal â phartneriaid cenedlaethol a chorfforaethol, mae’r partneriaid darparu lleol yn cynnwys aelodau DACW, TEDS, WCADA, Kaleidoscope a’r prif bartner Drugaid, yn ogystal â’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol – sy’n cyflogi tîm o 17 aelod o staff rhyngddyn nhw.
Bydd y staff yn gweithio yn ein swyddfa ym Mhontypridd ac yn cysylltu gyda chymunedau ar draws Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf dros gyfnod pum mlynedd y rhaglen.
Yn wahanol i wasanaethau trin alcohol cyffredin, caiff y rhaglen ei darparu ar draws pedair ffrwd waith, sef –
Atal
Rydym ni’n codi ymwybyddiaeth am broblemau camddefnyddio alcohol ymysg pobl dros 50 oed, yn newid agwedd, ymladd yn erbyn gwarthnod, trosglwyddo negeseuon ynglŷn â lleihau niwed ac yn dylanwadu ar gymunedau. Mae’r tîm yn darparu sesiynau byr i drafod alcohol, gweithdai ymwybyddiaeth alcohol mewn cymunedau a gweithleoedd, ac yn mynd i nifer fawr o ddigwyddiadau cyhoeddus er mwyn cysylltu gyda nifer o randdalwyr.
Gwydnwch
Rydym ni’n anelu at gynyddu gwydnwch unigolion a chymunedau tuag at broblemau alcohol ymysg pobl dros 50 oed. Mae Yfed yn Ddoeth Heneiddio’n Dda yn cefnogi unigolion a grwpiau drwy roi sgiliau ymdopi mewn bywyd iddyn nhw trwy waith grŵp trefnus, digwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau sgiliau – sydd yn eu tro yn lleihau’r teimlad o fod ar wahân yn y gymuned. Gyda chefnogaeth gan wirfoddolwyr, gall unigolion hefyd dderbyn gwasanaeth bod yn gyfaill.
Cyswllt a chefnogaeth uniongyrchol
Rydym ni’n helpu i leihau yfed peryglus, niweidiol a dibynnol yn ogystal â niwed perthnasol ymysg pobl dros 50. Mae cefnogaeth un-i-un, teuluol a chyfoedion ar gael ac mae modd cyfarfod â’r cleientiaid yn eu cartrefi neu mewn llefydd cymunedol, lle gallan nhw dderbyn gwahanol wasanaethau sydd wedi’u profi gan nifer o offer mesur deilliannau addas.
Hyfforddiant
Rydym ni’n helpu i wella sut mae darparwyr gwasanaethau cymunedol a chyflogwyr sydd mewn cyswllt rheolaidd â phobl dros 50 oed yn gallu cydnabod ac ymateb i yfed peryglus. Mae ein hyfforddwr yn darparu hyfforddiant sydd wedi’i drefnu a’i gynllunio yn ogystal â hyfforddiant sy’n unigryw i chi. Mae’r hyfforddiant am ddim i bawb ac yn gwella eich gwybodaeth a’ch sgiliau.
Cefnogaeth ymchwil
Yn ogystal â rhannu negeseuon ataliol cadarn ynghylch yfed alcohol ymysg pobl hŷn, caiff Yfed yn Ddoeth Heneiddio’n Dda ei gefnogi gan ymchwil sylweddol sydd wedi’i arwain gan SMART, Prifysgol Bedfordshire, a’i gefnogi’n lleol gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam. Fel rhan o’n gwaith ymchwil trwy gydol y prosiect, caiff ardal Cwm Taf ei gymharu gydag ardal safonol yng Nghymru sy’n cynnwys rhan o’r ardal y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gofalu amdano.
Rydym ni’n gobeithio bydd ein rhaglen yn cyfuno’r ymchwil hwn er mwyn helpu i lunio corff o dystiolaeth ar sut i atal pobl dros 50 oed rhag camddefnyddio alcohol. Bydd hefyd yn dylanwadu ar ein polisi a sut rydym ni’n darparu’r gwasanaeth yn y dyfodol.
Cysylltwch â ni
Ffoniwch y tîm Yfed yn Ddoeth Heneiddio’n Dda ar 0800 161 5780 neu anfonwch e-bost at wales@drinkwiseagewell.org.uk am fwy o wybodaeth.
Neu dysgwch fwy am y prosiect trwy glicio yma i weld ein gwefan.