Meddwl yn Ddoeth, Heneiddio’n Dda
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Alcohol Concern a Llywodraeth Cymru wedi amlygu’r angen i wella’r cymorth ar gyfer pobl hŷn sy’n dioddef problemau camddefnyddio sylweddau.
Yn 2017, amlygodd adroddiad y Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau (APoSM) Substance misuse in an ageing population bryderon cynyddol ynghylch camddefnyddio sylweddau ymhlith oedolion hŷn (y rhai dros 50 oed), a chamddefnyddio alcohol yn arbennig. Nododd yr adroddiad bod oedolion hŷn nid yn unig yn fwy tebygol o yfed mwy na’r uchafsymiau argymelledig nag oedolion iau, ond hefyd, bod dros 87 y cant o bobl dros 65 oed yng Nghymru yn adrodd eu bod wedi bod yn cymryd meddyginiaeth presgripsiwn yn rheolaidd am flwyddyn neu fwy. Gan ymateb, argymhellodd APoSM bod angen hyfforddiant arbenigol ar draws Cymru ym maes camddefnyddio sylweddau, ar gyfer gwasanaethau sy’n cynorthwyo oedolion hŷn. Mae’r argymhelliad wedi arwain at ddatblygu Meddwl yn Ddoeth, Heneiddio’n Dda.
Mae Meddwl yn Ddoeth, Heneiddio’n Dda yn darparu cyrsiau Hyfforddi’r Hyfforddwr pwrpasol ar gyfer gwasanaethau arbenigol ac anarbenigol sy’n cynorthwyo pobl hŷn. Mae’r hyfforddiant yn darparu ymwybyddiaeth a gwybodaeth am achosion ac effeithiau camddefnyddio sylweddau ymhlith cleientiaid hŷn, yr effaith y gallai hyn ei chael, a sut i ymyrryd, yn ogystal â llwybrau cyfeirio i wasanaethau camddefnyddio sylweddau.
Cynlluniwyd yr hyfforddiant er mwyn galluogi gweithwyr proffesiynol i:
- adnabod oedolion hŷn (dros 50 oed) y gallent fod yn cael problemau camddefnyddio sylweddau (gan gynnwys alcohol, cyffuriau a meddyginiaeth a roddir dan bresgripsiwn yn unig)
- deall llwybrau gofal lleol a rhanbarthol
- meithrin sgiliau a’r hyder i drafod camddefnyddio sylweddau mewn ffordd sensitif
- cyfeirio at wasanaethau neu gymorth arall
- gwella sgiliau ac arfer
- herio agweddau a stigma ynghylch oedolion hŷn a chamddefnyddio sylweddau
- meithrin sgiliau cyfathrebu
- datblygu ymwybyddiaeth o gamddefnyddio sylweddau
Yn ogystal, bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn yr hyfforddiant yn cael llawlyfr sy’n darparu gwybodaeth fanwl sy’n gysylltiedig â’r hyn a ddysgir ar y cwrs. Gellir defnyddio hwn hefyd fel pwynt cyfeirio ar ôl cwblhau’r hyfforddiant.
Cefindr
Mae adroddiad APoSM yn cynnig trosolwg cyflawn o’r materion camddefnyddio sylweddau ymhlith poblogaeth Cymru sy’n heneiddio. Mae’n amlygu materion yr adroddwyd amdanynt dro ar i ôl tro dros y ddegawd ddiwethaf gan sefydliadau megis Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda, Tîm Ymchwil Camddefnyddio Sylweddau a Heneiddio (SMART) a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion. O ganlyniad i’w llwyddiant parhaus, modelwyd Meddwl yn Ddoeth, Heneiddio’n Dda ar arfer da rhaglen Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda. Fe’i darparir gan Barod Cymru, sy’n aelod o DACW, ac fe’i cynorthwyir gan Alcohol Concern.
Dywedodd pobl sydd wedi mynychu hyfforddiant Yfed Doeth, Heneiddio’n Dda:
“Roedd yr hyfforddiant yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig y dybiaeth unigol ynghylch mesuriadau alcohol ac ystadegau sy’n ymwneud ag yfed alcohol; mae’r sesiwn mor berthnasol ac mae’n cyfrannu at arfer.”
Gweithiwr Cymdeithasol, Cyngor Rhondda Cynon Taf
“Hyfforddiant ardderchog. Fe’i cyflwynwyd ar gyflymder da ac roedd yn ddefnyddiol iawn. Roedd yr hyfforddwr wedi ei gyflwyno gydag angerdd a gwybodaeth am y pwnc dan sylw.”
Arweinydd Tîm, Gwasanaeth Alcohol a Chyffuriau Gwent
Gweithredu
Gweithredir y rhaglen ar ffurf tri cham dros dair blynedd, a fydd yn cynnwys estyn allan i dair prif ardal yng Nghymru sy’n cynnwys cyfran uchel o bobl hŷn sy’n wynebu materion yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddau.
- Lleolir bwrdd iechyd lleol (BILl) Hywel Dda yn rhanbarth Dyfed ac mae Barod Cymru wedi dynodi ei bod yn ardal lle y gwelir angen sylweddol am wasanaethau camddefnyddio sylweddau ar gyfer pobl hŷn. Yn ogystal, mae BILl Hywel Dda yn cynnwys ail ganran uchaf y preswylwyr 65 oed neu’n hŷn yng Nghymru (24%). Gwasanaethir yr ardal hon gan aelodau DACW sef Barod Cymru a Kaleidoscope trwy gyfrwng Gwasanaeth Alcohol a Chyffuriau Dyfed (DDAS), a hon yw’r ardal gyntaf y bwriedir gweithredu Meddwl yn Ddoeth, Heneiddio’n Dda ynddi.
- Lleolir BILl Betsi Cadwaladr yng Ngogledd Cymru ac mae’n cynnwys cyfran uchel o breswylwyr 65 oed a throsodd hefyd (23%, gan godi i 27% yng Nghonwy). Mae CAIS, sy’n aelod o DACW, yn gweithredu yn y rhanbarth hwn a hon yw’r ail ardal y bwriedir gweithredu Meddwl yn Ddoeth, Heneiddio’n Dda ynddi (2018-2019).
- Mae BILl Powys yn cynnwys cyfran uchaf y bobl sy’n 65 oed neu’n hŷn yng Nghymru (26%) ac mae’n wynebu sialensiau sylweddol oherwydd ei natur wledig hefyd. Mae Kaleidoscope a CAIS, y mae’r ddau ohonynt yn aelodau o DACW, yn gweithredu ym Mhowys a dyma’r drydedd ardal y bwriedir gweithredu Meddwl yn Ddoeth, Heneiddio’n Dda ynddi (2019-2020).
Cysylltwch â ni
Ffoniwch y tîm Yfed yn Ddoeth Heneiddio’n Dda ar 0800 161 5780 neu anfonwch e-bost at wales@drinkwiseagewell.org.uk am fwy o wybodaeth.
Lawrlwythwch y daflen Yfed yn Ddoeth Heneiddio’n Dda Hyfforddi’r hyfforddwr yma.
Neu dysgwch fwy am y prosiect trwy glicio yma i weld ein gwefan.