
BCUHB…Newid Cam, Ablett Ward, Glan Clwyd. Yn y llun mae Ronnie Devlin. Gaynor Thomas, Jason Samuels yn Heather Evans.
Beth ydy Newid Cam?
Mae Newid Cam yn wasanaeth i gynfilwyr gan gynfilwyr sy’n cynnig gwasanaeth mentora cyfoedion a help i fanteisio ar wasanaethau perthnasol eraill. Mae hyn yn cynnwys help gyda phroblemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a materion yn ymwneud â chyfiawnder troseddol a thai.
Mae ein mentoriaid cyfoedion yn cynnig cefnogaeth mewn sesiynau galw mewn ar draws Cymru, yn ogystal â gweithgareddau a chefnogaeth un i un. At hyn, mae ein staff ymroddgar yn cydweithio gyda theuluoedd cynfilwyr.
Pwy gaiff fanteisio o Newid Cam?
Rydym ni’n fwy na pharod i helpu unrhyw un fu’n gweithio i Luoedd Arfog Prydain.
Fe allwn ni hefyd gynnig cefnogaeth ymarferol a chyfrinachol i ofalwyr neu aelodau teulu y cynfilwyr – a hyn ar y cyd â’r cynfilwr neu yn annibynnol heb y cynfilwr yn bresennol.
Beth all Newid Cam ei gynnig?
- man cyswllt i gynfilwyr, eu teuluoedd a’u gofalwyr ynghyd â help i fanteisio ar wasanaethau eraill
- mentora cyfoedion yn y gymuned gan gynfilwyr i gynfilwyr
- Cyfleoedd hyfforddiant a gwirfoddoli yn y gymuned
Yn y Gymuned
Mae ein gweithgareddau a chyfleoedd gwirfoddoli cymunedol yn gyfrwng therapiwtig ac yn rhoi cyfleoedd cymdeithasol i bobl fel bod modd iddyn nhw ddatblygu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau ffurfiol.
Helpwch ni i helpu cynfilwyr
Ers i ni lansio yn 2014, bu i ni helpu dros 1,000 o gynfilwyr a’u teuluoedd.
Ganfod mwy ar ein gwefan: www.changestepwales.co.uk
Gallwch gysylltu â thîm newid cam drwy ffonio 0300 777 2259 neu e-bostio ask@change-step.co.uk.
Gellir cysylltu â thîm newid cam
Dydd Llun – dydd Gwener o 9.00 am – 5.00 pm.
Ymyrryd mewn argyfwng
Os oes angen siarad â rhywun y tu allan i oriau agor ein gwasanaethau eraill sydd ar gael
Samariaid
08457 90 90 90
Dan 24/7
Rhadffon: 0808 808 2234 neu testun DAN i: 81066