Ymunodd Rachael â Cyfle Cymru ym mis Tachwedd y llynedd a dechreuodd weithio gyda’i mentor cyfoed, Lisa, i adeiladu ar ei hyder.
Ar y dechrau, roedd Rachael yn teimlo’n nerfus iawn ac yn ei chael yn anodd ymuno â gweithgareddau Cyfle Cymru a gynhaliwyd yn Byddin yr Iachawdwriaeth yn Y Rhyl.
Wrth i’r wythnosau fynd heibio, fe wnaeth hyder Rachael dyfu ac yn y diwedd roedd yn gallu ymuno â gweithgareddau’r grŵp a chyfrannu ei hun.
Mae Rachael, 27, hefyd wedi cwblhau ei chwrs cymorth cyntaf gyda Chroes Goch Prydain a’i chymhwyster lefel 2 mewn hylendid bwyd.
Galluogodd hyn iddi allu rhedeg ei grŵp pobi ei hun yn Byddin yr Iachawdwriaeth ac mae’n gobeithio cymryd rhan mewn mwy o waith gwirfoddol yn y dyfodol.
“Rydw i wir wedi tyfu fel person yn dilyn yr holl gefnogaeth dwi wedi’i gael gan Cyfle Cymru” meddai Rachael.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, a gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.