Cyn troi at Cyfle Cymru, roedd Nicole yn dioddef o ddiffyg hyder ac yn cael trafferth dod o hyd i swydd. Gyda chymorth ei mentor cymheiriaid, mae hi bellach yn ôl yn gweithio.
Mynychodd Nicole, 19, rai o’r cyrsiau hyfforddi achrededig a gynhaliwyd gan Cyfle Cymru gan gynnwys y cwrs hyder personol.
Dechreuodd wirfoddoli ar fferm, wnaeth hefyd ei helpu i fagu hyder a chwrdd â phobl newydd.
Gyda’r hyder newydd hyn, dechreuodd Nicole o Brestatyn wneud cais am swyddi a chynigiwyd dau gyfweliad am swydd iddi. Mae Nicole bellach yn gweithio ym Mharc Gwyliau Robin Hood yn Y Rhyl.
Dywedodd Nicole: “Mae Cyfle Cymru hefyd wedi fy helpu i wneud llawer o ffrindiau newydd”.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, a gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.