Cyn ymgysylltu â Cyfle Cymru, roedd Sarah o Sir y Fflint yn teimlo’n unig ac yn ei chael hi’n anodd symud ymlaen gyda’i hadferiad.
Mynychodd nifer o sesiynau un i un, gweithiodd yn galed gyda’i mentor cyfoedion i adeiladu ar ei hyder a llwyddodd i fynychu sesiwn galw heibio ar ei phen ei hun.
Parhaodd i gymryd rhan yn wythnosol gyda’r prosiect ac o ganlyniad darganfu bod popeth yn ei bywyd yn gwella.
Ers hynny, bu’n llwyddiannus mewn cyfweliad i ddod yn weithiwr ieuenctid gwirfoddol yn ei chanolfan gymunedol leol a bydd yn cwblhau cymhwyster lefel 2.
Mae hi hefyd wedi dechrau fel gwirfoddolwr Cyfle Cymru.
Meddai Sarah: “Hoffwn ddiolch am y cyfle, rwyf wedi mwynhau fy hun ac yn teimlo mor hyderus.
“Rydych chi gyd mor onest a naturiol a dyna’n union yr oeddwn ei angen yn fy mywyd.
“Diolch am fod yn chi’ch hunain ac am fy nhrin i fel person. Mae’n gwneud gwahaniaeth enfawr a dwi mor ddiolchgar “
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, a gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.