Mae Kelly o Wrecsam wedi bod yn gweithio gyda’r mentor cyfoedion, George, am 3 mis ac mae eisoes wedi gweld cynnydd yn ei hyder o gwmpas pobl eraill.
Mae’r gweithgareddau a chyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael i Kelly trwy Cyfle Cymru wedi caniatáu iddi gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd.
Mae Kelly, 26 oed, hefyd yn ymgymryd â chefnogaeth mentor cyfoedion un i un yn Nhŷ’r Pencampwyr (Chmapions’ House), a dywedodd ei bod wedi wedi sylweddoli “nad yw’n frawychus i siarad am bethau”.
Gyda’i bywyd cymdeithasol yn ôl, mae Kelly nawr yn ymwneud â gwahanol weithgareddau cymunedol ac mae’n gwirfoddoli i elusen leol.
“Mae bod yn rhan o grŵp o bobl mor gyfeillgar ac agored wedi dangos i mi y gallaf wneud ffrindiau newydd a bod yn rhan o weithgareddau cymunedol gwahanol.” Meddai Kelly.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, a gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.