Mae hyder David wedi datblygu ar ôl dim ond dau fis o wirfoddoli ym Mryn y Wal yn Sir Ddinbych, diolch i Cyfle Cymru. Wrth ymgysylltu â rhaglen Cyfle Cymru, mae David, 39, hefyd wedi bod yn dysgu sgiliau newydd a chymdeithasu â phobl newydd. "Mae'n fy nghyflyru i fynd allan i geisio cael swydd amser llawn!" meddai David. Darperir Cyfle Cymru gan DACW. Mae Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth [.....]
Storiau Cyfle Cymru
Sharon: “Dw i’n ddiolchgar am y cyfle hwn”
Trodd Sharon o Ynys Môn at Cyfle Cymru am help i lenwi ei hamser, cwblhau cyrsiau hyfforddi a chwilio am waith hefyd. Gyda chymorth ei mentoriaid cyfoedion, mae Sharon wedi mynychu cyrsiau hyfforddi achrededig i wella ei sgiliau cyflogadwyedd ac mae'n mwynhau cwrdd â phobl newydd wrth wirfoddoli bob mis. Mae Sharon, 34, yn gobeithio dod yn fentor cyfoedion ei hun yn y dyfodol trwy barhau i [.....]
Rachel: “mae’r mentoriaid i gyd wedi chwarae rhan wrth fy helpu i wella”
Rachel, 34, Bangor "Fe'm cyfeiriwyd at Cyfle Cymru gan fy mod yn cael trafferth dod yn ôl i weithio oherwydd materion gyda fy iechyd meddwl. Ers i mi ddechrau, mae Scott a'r mentoriaid cyfoedion eraill wedi rhoi'r gefnogaeth yr oeddwn ei angen ac mae pawb wedi chwarae rhan wrth fy helpu i wella. "Ers hynny rwyf wedi gweithio fel stiward digwyddiad yn Hardrock Hell ac ar hyn o bryd rwy’n gwirfoddoli yn hosbis [.....]
Michael: “ar siwrnai newydd o ddysgu sgiliau newydd”
Mae Michael o Fae Colwyn wedi bod yn adfer am ychydig dros ddwy flynedd a dechreuodd wirfoddoli fel mentor cyfoedion ar gyfer CAIS. Mae bellach ar siwrnai newydd o ddysgu sgiliau newydd ac yn adeiladu ei hyder a'i hunan-barch yn ôl eto. Meddai Michael, 48 oed: "Rwy'n ddiolchgar iawn, ac rwy'n gwerthfawrogi ac yn caru'r cyfle i roi rhywbeth yn ôl trwy fod yn aelod diwyd o'r gymuned". Darperir [.....]
Ross: “Rhoddodd Cyfle Cymru synnwyr o bwrpas i mi”
Ross, 36, Abertawe Pan ymunais â Cyfle Cymru am y tro cyntaf, cymerais ran yn y gweithgareddau gwirfoddol i gadw fy hun yn brysur ac roedd yn wych mynd allan i gwrdd â phobl newydd. Roedd gwirfoddoli gyda Cyfle Cymru a mynd ar y teithiau cerdded wythnosol yn rhoi synnwyr o bwrpas i mi gan fy helpu i ailadeiladu fy hyder. Ar ôl mynychu dosbarthiadau Datblygiad Personol a chwblhau fy hyfforddiant gwirfoddol, [.....]
Gary: “Dyma’r peth gorau sydd wedi digwydd i mi!”
Mae Gary o Ben-y-bont ar Ogwr wedi gweld gwelliannau enfawr yn ei iechyd meddwl ef ei hun wedi iddo gwblhau nifer o gyrsiau hyfforddi achrededig a mynychu sesiynau datblygu personol gyda Cyfle Cymru. Mae Gary, 38 oed, wedi gweld ei bryderon yn diflannu wrth wneud ffrindiau newydd, gan adeiladu ei hunan-barch a threulio mwy o amser gyda'i deulu. Mae hefyd yn edrych ymlaen at allu rhoi yn ôl a gwirfoddoli gyda Cyfle [.....]
Katie: “Mae Cyfle Cymru wedi fy helpu i feithrin fy hyder”
Ar ôl bod yn ddi-waith am ddwy flynedd, trodd Katie o Ben-y-bont ar Ogwr at Cyfle Cymru am help ac mae bellach yn fwy optimistaidd nag erioed am ei dyfodol. Roedd Katie yn dioddef o boen meddwl a materion yn ymwneud â diffyg hyder cyn i Cyfle Cymru ddarparu cyfleoedd hyfforddi gwirfoddol iddi. Mae Katie bellach yn gwirfoddoli yn rheolaidd ac wedi ennill diploma mewn rheoli digwyddiadau, gan greu nifer o [.....]
Rosa: “ar lwybr newydd a thaith newydd”
Mae Rosa o Bethesda wedi cyflawni ei breuddwydion o fod yn wirfoddolwr a gweithio gyda Cyfle Cymru i godi arian. Dywedodd Rosa, 56, "Roeddwn i eisiau gwirfoddoli mewn siop elusen leol yn unol â'm gwerthoedd personol a chefnogodd Cyfle Cymru mi i sicrhau swydd wirfoddol mewn siop Cynghrair Amddiffyn Cathod. Mae Cyfle Cymru wedi fy helpu i ennill hyder, ymdeimlad o hunanwerth a strwythur i fy wythnos – pethau yr [.....]
Cassie: “…Cyfle Cymru wedi newid fy mywyd”
Mae Cassie o Gwmbrân wedi bod yn gweithio gyda Cyfle Cymru ac mae hi wedi cwblhau ei chymhwyster mentora cymheiriaid ers hynny. Ymgysylltodd yn llawn â holl weithgareddau Cyfle Cymru yn ei hardal ac fe weithiodd yn galed gyda'i mentor cymheiriaid i ddarganfod ei chamau nesaf. Yma fe'i gwelir yn cymryd y camau hynny ar ei diwrnod cyntaf yn gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol. Dywedodd Cassie, 30 [.....]
Leigh: “Mor falch o gael cynnig swydd”
Yn ddiweddar, derbyniodd Leigh o Gaerffili ei gyflog cyntaf, ar ôl i Cyfle Cymru ei helpu i roi hwb i'w CV. Roedd mor falch o gael cynnig swydd, ac fe dderbyniodd swydd yn warws ‘Peacocks’ ar unwaith. Fe wnaeth Cyfle Cymru helpu Leigh i gyflawni hyn trwy ddarparu sesiynau un i un iddo gyda mentor cyfoedion, mynediad i weithdai yn seiliedig ar sgiliau, a gweithio gydag ef i anfon ei CV newydd at asiantaethau [.....]