Mae Rosa o Bethesda wedi cyflawni ei breuddwydion o fod yn wirfoddolwr a gweithio gyda Cyfle Cymru i godi arian.
Dywedodd Rosa, 56, “Roeddwn i eisiau gwirfoddoli mewn siop elusen leol yn unol â’m gwerthoedd personol a chefnogodd Cyfle Cymru mi i sicrhau swydd wirfoddol mewn siop Cynghrair Amddiffyn Cathod.
Mae Cyfle Cymru wedi fy helpu i ennill hyder, ymdeimlad o hunanwerth a strwythur i fy wythnos – pethau yr oedd yn ddirfawr eu hangen arna i, trwy wirfoddoli a thrwy ddod yn aelod o grŵp barddoniaeth.
Ar hyn o bryd rwy’n gwirfoddoli gyda Chŵn Tywys i’r Deillion a fy nod nesaf i yw hyfforddi i ddod yn Dywysydd i’r dall.
Rwyf nawr ar lwybr newydd a thaith newydd, gan ddarganfod beth sydd o fewn fy hun. ”
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.