Yn ddiweddar, derbyniodd Leigh o Gaerffili ei gyflog cyntaf, ar ôl i Cyfle Cymru ei helpu i roi hwb i’w CV. Roedd mor falch o gael cynnig swydd, ac fe dderbyniodd swydd yn warws ‘Peacocks’ ar unwaith.
Fe wnaeth Cyfle Cymru helpu Leigh i gyflawni hyn trwy ddarparu sesiynau un i un iddo gyda mentor cyfoedion, mynediad i weithdai yn seiliedig ar sgiliau, a gweithio gydag ef i anfon ei CV newydd at asiantaethau recriwtio.
Pedair wythnos yn ddiweddarach ac mae Leigh, 31 oed, yn gweithio’n galed yn ei swydd newydd ac mae’n datblygu’n barhaus.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.