Ross, 36, Abertawe
Pan ymunais â Cyfle Cymru am y tro cyntaf, cymerais ran yn y gweithgareddau gwirfoddol i gadw fy hun yn brysur ac roedd yn wych mynd allan i gwrdd â phobl newydd.
Roedd gwirfoddoli gyda Cyfle Cymru a mynd ar y teithiau cerdded wythnosol yn rhoi synnwyr o bwrpas i mi gan fy helpu i ailadeiladu fy hyder.
Ar ôl mynychu dosbarthiadau Datblygiad Personol a chwblhau fy hyfforddiant gwirfoddol, fe fagais ddigon o hyder i gwblhau fy hyfforddiant mentora cyfoedion.
Rwyf nawr yn cysgodi Mentoriaid Cyfoedion eraill ac yn mwynhau bod yn rhan o dîm gwych.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, a gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.