Rachel, 34, Bangor
“Fe’m cyfeiriwyd at Cyfle Cymru gan fy mod yn cael trafferth dod yn ôl i weithio oherwydd materion gyda fy iechyd meddwl. Ers i mi ddechrau, mae Scott a’r mentoriaid cyfoedion eraill wedi rhoi’r gefnogaeth yr oeddwn ei angen ac mae pawb wedi chwarae rhan wrth fy helpu i wella.
“Ers hynny rwyf wedi gweithio fel stiward digwyddiad yn Hardrock Hell ac ar hyn o bryd rwy’n gwirfoddoli yn hosbis Hafan Menai.
“Rhoddodd Cyfle Cymru hefyd y cyfle i mi gwblhau amrywiol gyrsiau, gan olygu fy mod bellach wedi cymhwyso i hwyluso grwpiau Ffrindiau Iselder yn y dyfodol.
“Hoffwn ddweud diolch yn fawr i Scott a’i gydweithwyr, hebddoch chi fyddwn i ddim wedi dechrau ailadeiladu fy hyder a sylweddoli fy hunanwerth.”
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, a gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.