Trodd Sharon o Ynys Môn at Cyfle Cymru am help i lenwi ei hamser, cwblhau cyrsiau hyfforddi a chwilio am waith hefyd.
Gyda chymorth ei mentoriaid cyfoedion, mae Sharon wedi mynychu cyrsiau hyfforddi achrededig i wella ei sgiliau cyflogadwyedd ac mae’n mwynhau cwrdd â phobl newydd wrth wirfoddoli bob mis.
Mae Sharon, 34, yn gobeithio dod yn fentor cyfoedion ei hun yn y dyfodol trwy barhau i weithio gyda Cyfle Cymru.
Dywedodd Sharon “Dw i’n ddiolchgar am y cyfle hwn ac yn teimlo fy mod wedi dod yn bell gyda fy adferiad, mewn mater o ychydig fisoedd yn unig. Edrychaf ymlaen at barhau gyda Cyfle Cymru. “
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, a gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.