Mae Gary o Ben-y-bont ar Ogwr wedi gweld gwelliannau enfawr yn ei iechyd meddwl ef ei hun wedi iddo gwblhau nifer o gyrsiau hyfforddi achrededig a mynychu sesiynau datblygu personol gyda Cyfle Cymru.
Mae Gary, 38 oed, wedi gweld ei bryderon yn diflannu wrth wneud ffrindiau newydd, gan adeiladu ei hunan-barch a threulio mwy o amser gyda’i deulu. Mae hefyd yn edrych ymlaen at allu rhoi yn ôl a gwirfoddoli gyda Cyfle Cymru.
“Rydw i mor falch i fod yn rhan o rywbeth sydd wedi newid fy mywyd. Dyma’r peth gorau sydd wedi digwydd i mi!” meddai Gary.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, a gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.