Mae Cassie o Gwmbrân wedi bod yn gweithio gyda Cyfle Cymru ac mae hi wedi cwblhau ei chymhwyster mentora cymheiriaid ers hynny.
Ymgysylltodd yn llawn â holl weithgareddau Cyfle Cymru yn ei hardal ac fe weithiodd yn galed gyda’i mentor cymheiriaid i ddarganfod ei chamau nesaf.
Yma fe’i gwelir yn cymryd y camau hynny ar ei diwrnod cyntaf yn gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol.
Dywedodd Cassie, 30 oed: “Mae’r gefnogaeth a gefais gan Cyfle Cymru wedi newid fy mywyd – rwy’n gwybod bod hynny’n gawslyd, ond mae’n wir. Rwy’n teimlo fy mod wedi dod yn bell mewn amser mor fyr ac erbyn hyn mae gen i gynllun clir i weithio tuag ato. Rwy’n teimlo fy mod gen i gyfeiriad a phwrpas.”
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.