Cyfeiriwyd Melanie at Cyfle Cymru gan ei hyfforddwr gwaith yn 2017 ac mae bellach yn gwneud gwaith mae hi’n ei fwynhau.
Roedd angen help ar Melanie, 40 i godi ei hyder a meithrin y sgiliau i chwilio am waith.
Ers bod ar brosiect Cyfle Cymru, mae Melanie wedi cwblhau cwrs cyfrifiadurol gyda Choleg Menai, wedi mynychu cwrs cymorth cyntaf gyda Croes Goch Prydain ac wedi cwblhau cwrs MEE.
Mae hi hefyd wedi mynychu diwrnodau gwirfoddoli i helpu yn ei chymuned lleol yng Nghaernarfon.
Mae’r cyfleoedd hyn a ddarperir gan Cyfle Cymru wedi helpu Melanie i wella ei hyder a dechrau ymgeisio am swyddi.
“Mae gen i swydd rwy’n ei fwynhau bellach ac mae bywyd gymaint yn well!” meddai Melanie
“Mae’r prosiect wedi rhoi llawer mwy o hyder i fi ynddo fi fy hun diolch i gymorth y mentoriaid cyfoedion Scott a Bev”.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, a gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.