Trodd John o Gas-gwent at Cyfle Cymru am rai syniadau a chymorth er mwyn symud ymlaen o gyfnod o afiechyd a bod yn ynysig.
Mae wedi mynychu llawer o weithdai ac wedi cwblhau cyrsiau hyfforddi ar-lein a gefnogir gan Cyfle Cymru.
Mae John, 62, hefyd wedi derbyn adnoddau addysgol a gwybodaeth gan Cyfle Cymru a chefnogaeth ynglŷn â’i sefyllfa yn y Ganolfan Byd Gwaith ac ESA.
“Rydw i am ddweud ychydig o eiriau o ddiolch, am y cymorth a’r cyngor yr ydych chi wedi ei roi i mi dros yr wythnosau blaenorol” meddai John.
“Mae eich cefnogaeth wedi trawsnewid fy mywyd trwy fy helpu i feithrin fy hyder a fy hunan-barch er mwyn i mi fwrw ymlaen a chael dyfodol gwell gobeithio.”
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, a gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.