Mae GWIRFODDOLWYR Cyfle Cymru wedi torchi llewys i helpu Sw Mynydd Cymru i baratoi eu meysydd chwarae ar gyfer prysurdeb hanner tymor.
Bu cyfranogwyr o’r rhaglen adennill a chyflogadwyedd yn llwytho berfa ar ôl berfa o risgl coed er mwyn sicrhau bod yna ardaloedd glanio meddal addas i blant allu chwarae yn yr atyniad ym Mae Colwyn cyn i wyliau’r ysgol gychwyn.
Bob pythefnos, mae tîm o wirfoddolwyr Cyfle Cymru yn ymuno â staff Sw Mynydd Cymru i gwblhau tasgau garddio a chynnal a chadw tir.
Gwnaeth Roxy o Landudno wirfoddoli yn y sw am y tro cyntaf y mis hwn, ac mae eisoes yn edrych ymlaen at ddychwelyd bob pythefnos.
Dywedodd: “Mae’n brofiad da oherwydd mae’n mynd â fi allan o’r tŷ – ac rwyf hefyd wrth fy modd yn gwneud unrhyw beth sy’n gysylltiedig ag anifeiliaid!”
Mae Roxy, 29, yn ymfalchïo mewn gweithio’n galed, ac mae’n mwynhau’r syniad o gael effaith gadarnhaol ar yr anifeiliaid yn y sw.
Mae hi’n gobeithio, bod arddangos ei hymrwymiad i wirfoddoli, yn profi i ddarpar gyflogwyr y dyfodol beth gallai hi gyflawni.
Mae Cyfle Cymru yn brosiect a ariennir gan yr UE sy’n cefnogi pobl sydd â phrofiad o faterion iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau wrth adennill hyder, cymwysterau a chyfleoedd cyflogaeth.
Drwy’r rhaglen, mae gwirfoddolwyr fel Roxy yn ennill profiad gwaith bywyd gwerthfawr ac meant yn magu hunanhyder, ac yn gallu rhoi yn ôl i’r gymuned.
Mae cyfranogwyr y rhaglen eisoes wedi elwa o fwy na 50,000 awr o fentora effeithiol – ac wedi ymrwymo mwy na 10,000 awr o’u hamser eu hunain i wirfoddoli ar hyd a lled Cymru.
Dywedodd mentor cyfoedion Conwy Dave Pritchard: “Treuliais tua 20 mlynedd o fy mywyd yn brwydro gyda chamddefnyddio sylweddau a materion iechyd meddwl cymhleth ac roeddwn yn gwybod bod rhaid i rywbeth newid.
“Rŵan dw i’n helpu pobl sydd mewn sefyllfaoedd tebyg i mi. Mae digwyddiadau fel hyn yn ffordd wych o alluogi ein cyfranogwyr i roi yn ôl i’r gymuned!”
Darperir Cyfle Cymru gan aelodau o Gonsortiwm DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Wasanaeth Di-Waith Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.