• Croeso
  • Newyddion
  • Newid Cam
    • Newid Cam
    • Storiau Newid Cam
  • Cyfle Cymru
    • Am Cyfle Cymru
    • Gwasanaeth Di-Waith Gwent
    • Storiau Cyfle Cymru
    • Cylchlythyrau
  • Yfed Doeth Heneiddio’n Dda
    • Meddwl yn Ddoeth Heneiddio’n Dda
    • Hyfforddwyr MDdHDd yn agos atoch chi
  • Aelodau’r cydgwmni
  • Cyfarwyddwyr
  • Cysylltwch â ni

DACW - Developing a Caring Wales

Providing a complete range of services for people affected by alcohol and drug misuse and mental health difficulties

  • English
  • Cymraeg
Rydych chi yma: Hafan / Newyddion / Gwirfoddolwyr Cyfle Cymru yn cynnal a chadw’r Globe!

Gwirfoddolwyr Cyfle Cymru yn cynnal a chadw’r Globe!

RANGERS SIR Y FFLINT yn ymuno â gwirfoddolwyr Cyfle Cymru i helpu Bwcle i flodeuo.

Ddwywaith y mis, mae gwirfoddolwyr Cyfle Cymru a Kaleidoscope Gogledd Cymru yn uno i gwblhau tasgau garddio a thasgau cynnal a chadw ar hen safle diwydiannol ar Globe Way ym Mwcle.

Mae’r cyfranogwyr wedi helpu i greu llwybrau cerdded sy’n arwain at y pwll, gan glirio ardaloedd oedd dan chwyn a phlannu blodau gwyllt yn eu lle, a lefelu ymylon glaswellt ar y llwybrau.

Dechreuodd David wirfoddoli gyda Cyfle Cymru er mwyn ceisio hybu ei iechyd a’i les.

Mae wedi bod yn gwirfoddoli ers rai misoedd bellachac mae wedi mynychu nifer o ddigwyddiadau Cyfle Cymru, gan gynnwys y digwyddiadau gwirfoddoli ym Mharc Gwepra.

Dywedodd: “Mae’n rhoi pwrpas i chi – rheswm i godi o’r gwely a gwneud rhywbeth gyda’ch diwrnod”.

Mae David, 53 oed, wedi cwblhau ei hyfforddiant cymorth cyntaf a ariennir gan Cyfle Cymru ac mae’n edrych ymlaen at fynychu cyrsiau eraill yn y dyfodol, yn y gobaith y bydd yn ei helpu i ddatblygu ei fusnes diogelwch tân.

Eglurodd David fod rhai aelodau o’r cyhoedd wedi hyd yn oed cysylltu â’r gwirfoddolwyr i ddiolch iddynt am wneud eu cymuned yn lle y gellid ei fwynhau.

“Mae’n braf teimlo fel eich bod chi’n gwneud rhywbeth defnyddiol a gwneud gwahaniaeth!” meddai o.

Esboniodd Ceidwad Sir y Fflint, Alistair Hemphill, sut mae pawb sy’n cymryd rhan yn elwa o’r digwyddiad.

Mae’r ceidwaid yn cael help llaw, mae’r cyfranogwyr yn datblygu sgiliau sy’n newid bywyd, mae’r gymuned yn elwa o’r llwybrau cerdded ac mae’n denu bywyd gwyllt i’r ardal.

“Mae popeth rydyn ni’n ei wneud yma ar gyfer y gymuned ehangach” meddai Alistair.

Dywedodd Mentor Cyfoed Cyfle Cymru, Tim Quick: “Mae’r ceidwaid yn wych gyda’r cyfranogwyr.

“Y brif nod ar gyfer y cyfranogwyr yw gwella eu hiechyd a’u lles tra’n gwella eu CV ar gyfer y dyfodol.

“I lawer o bobl, dyma’r tro cyntaf iddynt wneud y math yma o bethau ac mae’n wirioneddol yn eu helpu nhw i frwydro yn erbyn unigrwydd”.

Hefyd, croesawodd Tim gyfranogwyr o’r Rhaglen Ymyrraeth Cydweddiad Cyffuriau, partneriaeth rhwng Kaleidoscope Gogledd Cymru a CAIS – a chyfraniad y prosiect at fwyd a lluniaeth.

“Mae’n dda gweld cymaint o wahanol wasanaethau yn dod ynghyd fel Cyfle Cymru, Cydweddiad a Chyngor Sir y Fflint, i helpu’r cyhoedd”.

“Mae llawer o’r gwirfoddolwyr yn swil iawn ac yn ynysig, felly mae hyn yn gyfle gwych iddynt deimlo’n rhan o’r gymuned trwy helpu”.

Mae Cyfle Cymru yn brosiect sy’n cael ei arwain gan gyfoedion a ariennir gan yr UE sy’n anelu at gynorthwyo unigolion sydd â phrofiad o iechyd meddwl isel a chamddefnyddio sylweddau i ddychwelyd i’r gwaith.

Am fwy o wybodaeth am Cyfle Cymru cliciwch yma, galwch 0300 777 2256 neu anfowch ebost i ask@cyflecymru.com

 


Darperir Cyfle Cymru gan aelodau o Gonsortiwm DACW.

Mae Cyfle Cymru yn rhan o Wasanaeth Di-Waith Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

WEFO ESF OOWS

 

 

Share this:

  • Click to share on X (Opens in new window) X
  • Click to share on Facebook (Opens in new window) Facebook
  • Click to share on LinkedIn (Opens in new window) LinkedIn
  • Click to email a link to a friend (Opens in new window) Email

Ffeiliwyd Dan: Newyddion

Swyddi Diweddar

  • Academi fentora yn ennill gwobr fawr am hyfforddiant
  • Clirio mannau harddwch yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr
  • Martin Blakebrough – Prif Weithredwr, Kaleidoscope, a Chadeirydd DACW

Tanysgrifio drwy e-bost

Rhowch eich cyfeiriad e-bost i derby hysbysiadu o swyddi newydd drwy e-bost.

Os gwelwch yn dda rhannu DACW

Copyright/Hawlfraint © 2025 DACW

MENU
  • Croeso
  • Newyddion
  • Newid Cam
    • Newid Cam
    • Storiau Newid Cam
  • Cyfle Cymru
    • Am Cyfle Cymru
    • Gwasanaeth Di-Waith Gwent
    • Storiau Cyfle Cymru
    • Cylchlythyrau
  • Yfed Doeth Heneiddio’n Dda
    • Meddwl yn Ddoeth Heneiddio’n Dda
    • Hyfforddwyr MDdHDd yn agos atoch chi
  • Aelodau’r cydgwmni
  • Cyfarwyddwyr
  • Cysylltwch â ni
 

Loading Comments...