Sut ydym yn gweithio gydag oedolion hŷn sy’n camddefnyddio sylweddau?
Law yn llaw â phoblogaeth sy’n heneiddio, rydym yn gweld cynnydd yng nghyfanswm yr alcohol y mae’r grŵp oedran Dros 50 oed yn ei yfed, ynghyd ag arferion defnyddio meddyginiaeth ar bresgripsiwn a chyffuriau anghyfreithlon.
Ni fydd oedolion hŷn sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn cael yr un sylw â chamddefnyddwyr sylweddau iau, ac mae’n rhaid i wasanaethau generig ddelio’n gynyddol ag unigolion sydd ag anghenion lluosog neu gymhleth.
Cynhyrchodd Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru adroddiad ym mis Chwefror 2017 ynghylch Camddefnyddio Sylweddau ymhlith Poblogaeth sy’n Heneiddio, a oedd yn cynnwys nifer o argymhellion. O ran cydnabod oedolion hŷn mewn polisi neu strategaeth camddefnyddio sylweddau, mae Cymru ar y blaen o’i chymharu â’i chymheiriaid yn y DU, ond rydym yn gwybod bod mwy i’w wneud, gan gynnwys mynd i’r afael â rhagfarn ar sail oedran a stigma yn y boblogaeth hon sy’n cynyddu o ran ei maint.
Mae angen mabwysiadu ymagweddau newydd tuag at ddarparu gwasanaethau os ydym yn mynd i ymateb i’r heriau sy’n o’n blaenau gyda’n gilydd.
Paid â mynd heb ofyn pam…Cynhadledd Camddefnyddio Sylweddau a Heneiddio 2018
Stadiwm Dinas Caerdydd – 24 Ionawr 2018
Darparir ar eich cyfer gan: Yfed Doeth Heneiddio’n Dda a Datblygu Cymru Gofalgar