• Croeso
  • Newyddion
  • Newid Cam
    • Newid Cam
    • Storiau Newid Cam
  • Cyfle Cymru
    • Am Cyfle Cymru
    • Gwasanaeth Di-Waith Gwent
    • Storiau Cyfle Cymru
    • Cylchlythyrau
  • Yfed Doeth Heneiddio’n Dda
    • Meddwl yn Ddoeth Heneiddio’n Dda
    • Hyfforddwyr MDdHDd yn agos atoch chi
  • Aelodau’r cydgwmni
  • Cyfarwyddwyr
  • Cysylltwch â ni

DACW - Developing a Caring Wales

Providing a complete range of services for people affected by alcohol and drug misuse and mental health difficulties

  • English
  • Cymraeg
Rydych chi yma: Hafan / Newyddion / Aelodau o DACW yn cytuno ar gynllun gweithredu ar fentanyls

Aelodau o DACW yn cytuno ar gynllun gweithredu ar fentanyls

BU I AELODAU consortiwm Datblygu Cymru Gofalgar (DACW) gytuno ar gynllun gweithredu i helpu mynd i’r afael gyda’r risg dichonol gan y teulu fentanyl o opioidau synthetig.

Mae’r grŵp, sy’n gyfuniad o asiantaethau sector gwirfoddol adnabyddus o bob cwr o’r wlad, wedi cytuno ar chwe blaenoriaeth er mwyn rhoi’r gorau i’r defnydd o’r sylweddau hyn, sy’n llawer cryfach na heroin.

Does dim tystiolaeth i awgrymu caiff y cyffuriau yma eu defnyddio’n helaeth ledled Cymru ond mae aelodau DACW yn credu fod posib i fentanyls fod yn risg sylweddol i bobl fregus ledled y wlad.

Fel ymateb i hyn, bydd aelodau DACW yn gwneud y canlynol:

  • parhau i fod yn wyliadwrus ynghylch y defnydd o fentanyls yng nghymunedau Cymru ac argymell fod pob asiantaeth yn derbyn stribedi profi er mwyn adnabod y defnydd o’r cyffuriau
  • galw am gynllun prawf ar gyfer y cartref er mwyn profi am fentanyl mewn wrin, gyda hyfforddiant a chefnogaeth i ddefnyddwyr mewn risg o ddod ar draws fentanyls
  • gofalu caiff samplau cyffuriau eu hanfon yn rheolaidd at WEDINOS i’w profi ac annog lluoedd yr Heddlu, gwasanaethau iechyd a phartneriaid eraill i wneud yr un peth
  • hyfforddi holl aelodau’r rheng flaen ynghylch ymwybyddiaeth o fentanyl a sylweddau seicoweithredol newydd
  • argymell parhau gydag ac ymestyn y rhaglen naloxone i gynnig cyngor arbenigol i ddefnyddwyr sydd mewn peryg o ddod ar draws fentanyls
  • cefnogi pobl i fanteisio ar driniaeth amnewidion effeithiol a chefnogi mentrau i ofalu nad oes yna restri aros am driniaethau cyffuriau yng Nghymru

Mae DACW hefyd yn croesawu gwaith y Panel Cynghori annibynnol ar Gamddefnyddio Sylweddau a’r Uwch Grŵp Lleihau Niwed i adolygu tystiolaeth ynghylch cyfleusterau pigiadau mwy diogel.

 

Ymateb wedi ymrwymo

Dywedodd yr Cadeirydd Jean Harrington: “Mae’r datganiad o bwrpas ar y cyd hwn gan aelodau consortiwm DACW yn dangos fod asiantaethau ledled Cymru yn gwbl ymroddgar gyda’u hymateb i’r perygl o fentanyls yn ymddangos ar ein strydoedd.

“Rydym yn barod i gydweithio gyda’n partneriaid yn y llywodraeth ac ar draws y wlad i fynd i’r afael ag effaith y sylweddau peryglus hyn.”

 

Papur sefyllfa DACW

Darllenwch y papur sefyllfa DACW ar fentanyls (Hydref 2017) drwy glicio yma.

Share this:

  • Click to share on X (Opens in new window) X
  • Click to share on Facebook (Opens in new window) Facebook
  • Click to share on LinkedIn (Opens in new window) LinkedIn
  • Click to email a link to a friend (Opens in new window) Email

Ffeiliwyd Dan: Newyddion

Swyddi Diweddar

  • Academi fentora yn ennill gwobr fawr am hyfforddiant
  • Clirio mannau harddwch yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr
  • Martin Blakebrough – Prif Weithredwr, Kaleidoscope, a Chadeirydd DACW

Tanysgrifio drwy e-bost

Rhowch eich cyfeiriad e-bost i derby hysbysiadu o swyddi newydd drwy e-bost.

Os gwelwch yn dda rhannu DACW

Copyright/Hawlfraint © 2025 DACW

MENU
  • Croeso
  • Newyddion
  • Newid Cam
    • Newid Cam
    • Storiau Newid Cam
  • Cyfle Cymru
    • Am Cyfle Cymru
    • Gwasanaeth Di-Waith Gwent
    • Storiau Cyfle Cymru
    • Cylchlythyrau
  • Yfed Doeth Heneiddio’n Dda
    • Meddwl yn Ddoeth Heneiddio’n Dda
    • Hyfforddwyr MDdHDd yn agos atoch chi
  • Aelodau’r cydgwmni
  • Cyfarwyddwyr
  • Cysylltwch â ni