BU I DROS GANT O bobl ddod ynghyd i ddathlu gwellhad a llwyddiant cynllun mentora cyfoedion Cyfle Cymru mewn diwrnod hwyl a barbeciw arbennig.
Bu i ddwsinau o unigolion o bob cwr o Ogledd Cymru ymuno gyda phreswylwyr a staff prosiect tai â chymorth Bryn y Wal yn Rhuddlan i fwynhau bwyd, cerddoriaeth, chwaraeon a gweithgareddau. .
Bu’n gyfle i aelodau’r grŵp ddod ynghyd i fwynhau golygfeydd ysblennydd Dyffryn Clwyd a myfyrio am eu gwellhad o gamddefnyddio sylweddau a chyflyrau iechyd meddwl.
Yn y digwydd hefyd bu lansiad prosiect garddio Bryn y Wal, sy’n helpu pobl ledled Conwy a Sir Ddinbych fynd i’r afael ag unigedd, cadw’n heini, rhoi hwb i’w hyder, gwella’u sgiliau a goresgyn rhwystrau i fedru dod o hyd i waith.
Mae’r cyn-blastrwr Michael Morris yn un o bron i 30 o bobl fu’n cymryd rhan yn y gwaith garddio ym Mryn y Wal yn ystod y ddeufis a hanner diwethaf. Mae Michael, sy’n 48 mlwydd oed, wedi llwyddo i roi’r gorau i gymryd cyffuriau ers dros ddwy flynedd erbyn hyn.
“Buom yn helpu paratoi’r gwelyau ar gyfer plannu, yn adeiladu’r biniau compost, yn codi ffensiau ac yn gwneud gwaith garddio cyffredinol” dywedodd Michael. “Mae’n fendigedig yma.
“Rydw i’n hoff o’r gwaith ymarferol. Mae’n helpu gyda fy hyder a fy hunan-barch. Roeddwn i’n gaeth am flynyddoedd maith a doeddwn i ddim yn byw fy mywyd i’r eithaf fel y dylwn i fod wedi – ond bu gweithio yma’n help imi ddysgu a chydweithio gydag eraill.”
Dywedodd cydlynydd garddio Cyfle Cymru, Gareth Evans, y bu Michael yn un o’r sawl unigolyn fu’n dangos cynnydd aruthrol fel rhan o’r prosiect Bryn y Wal.
“Mae gweithio ar yr ardd yn help i roi hwb i hyder pobl ac yn eu helpu i ddysgu sgiliau newydd yn ogystal â chyfarfod â phobl newydd a gofalu nad ydyn nhw’n teimlo’n unig,” dywedodd.
“Mae buddion sylweddol. Mae modd ichi weld pobl yn datblygu yn sgil y buddion therapiwtig a chymdeithasol o fod allan, yn yr ardd, yn cydweithio er yr un diben.”
Cafodd tystysgrifau Gwirfoddoli eu cyflwyno i unigolion ledled Gogledd Cymru gan Faer Rhuddlan, Andy Smith a hyrwyddwr gofalwyr Cyngor Sir Ddinbych, y Cyng. Ann Davies.
“Mae’r gwaith gaiff ei gyflawni yma’n anhygoel – ac weithiau dw i’n meddwl caiff prosiectau fel hyn eu hesgeuluso mewn ffordd,” dywedodd Mr Smith. “Rydw i wedi medru bwrw golwg arno fy hun, felly hoffwn ddiolch o galon am bopeth rydych yn ei gyflawni yma ym Mryn y Wal.”
Dywedodd y Cyng. Davies ei bod yn falch o weld sut oedd y prosiectau yn help i bobl fynd rhagddi gyda’u bywydau.
“Mae’n fendigedig gweld y gefnogaeth sydd ar gael yma ym Mryn y Wal ar gyfer pobl sydd ei angen, ac ar gyfer eu gofalwyr – oherwydd mae materion fel hyn yn effeithio ar bawb,” dywedodd.
Bu i Siop Goffi Porter’s, menter gymdeithasol sy’n cynnig hyfforddiant a phrofiad gwaith i bobl sy’n wynebu rhwystrau gyda dod o hyd i waith, ddarparu lluniaeth – gyda help rhodd hael gan Edwards o Gonwy.
Mae Bryn y Wal, wedi ei gynnal gan Hafal ar y cyd â CAIS, Y Wallich, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Chyngor Sir Ddinbych, yn brosiect tai â chymorth i bobl gydag anghenion iechyd meddwl.
Mae Cyfle Cymru, o dan ofal CAIS ac wedi ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd, yn gynllun mentora cyfoedion a chymorth i ddod o hyd i waith ar gyfer pobl fu’n camddefnyddio sylweddau neu’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl. Mae’r cynllun yn cynnig cefnogaeth, hyfforddiant, cymwysterau a chyfleoedd gwirfoddoli fel rhan o Wasanaeth Di-waith Llywodraeth Cymru.
Hyd yn hyn, bu i dros 4,700 o bobl ledled Gogledd Cymru, Gwent, Dyfed, Powys a Bae’r Gorllewin, fanteisio ar gefnogaeth gan dîm mentora cyfoedion Cyfle Cymru.
Fel tîm, bu iddyn nhw gynnig dros 71,000 awr o gefnogaeth a helpu dros 1,000 o bobl i ennill cymhwyster neu dystysgrif newydd. Bu i dros 600 o bobl gymryd rhan mewn digwyddiadau gwirfoddoli gan gyfrannu’n sylweddol at gymunedau Cymru gyfan.
I wybod mwy am Cyfle Cymru ewch i www.dacw.co.uk, galwch 0300 777 2256 neu anfonwch e-bost ask@cyflecymru.com
Darperir Cyfle Cymru gan aelodau o Gonsortiwm DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Wasanaeth Di-Waith Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.