• Croeso
  • Newyddion
  • Newid Cam
    • Newid Cam
    • Storiau Newid Cam
  • Cyfle Cymru
    • Am Cyfle Cymru
    • Gwasanaeth Di-Waith Gwent
    • Storiau Cyfle Cymru
    • Cylchlythyrau
  • Yfed Doeth Heneiddio’n Dda
    • Meddwl yn Ddoeth Heneiddio’n Dda
    • Hyfforddwyr MDdHDd yn agos atoch chi
  • Aelodau’r cydgwmni
  • Cyfarwyddwyr
  • Cysylltwch â ni

DACW - Developing a Caring Wales

Providing a complete range of services for people affected by alcohol and drug misuse and mental health difficulties

  • English
  • Cymraeg
Rydych chi yma: Hafan / Newyddion / Gardd ffrwythau a llysiau newydd diolch i waith gwirfoddolwyr

Gardd ffrwythau a llysiau newydd diolch i waith gwirfoddolwyr

Mae preswylwyr mewn tai gwarchod yn Wrecsam yn mwynhau gardd ffrwythau a llysiau newydd yn sgil ymdrechion gwirfoddolwyr o Cyfle Cymru.

Gweithiodd y grŵp yn y gwres tanbaid i balu a hau llain lysiau newydd i drigolion Uned Tai Gwarchod Springfield yn Rhosddu.

Mae’r tenantiaid yn gobeithio cael llwyth toreithiog ar ôl i’r grŵp godi’r gwair, palu dros yr uwchbridd a phlannu cnydau yn y gwely newydd.

 

Dan arweiniad elusen CAIS, mae Cyfle Cymru yn brosiect mentora cymheiriaid sydd yn cael ei ariannu gan yr UE sydd yn cefnogi pobl sydd â hanes o gamddefnyddio sylweddau a phroblemau iechyd meddwl – ac yn rhoi cyfleoedd gwirfoddoli iddynt, mynediad at hyfforddiant a’u helpu i ddod o hyd i waith.

Roedd warden Springfield, Melanie Child yn canmol proffesiynoldeb y gwirfoddolwyr a dywedodd ei bod yn gobeithio eu croesawu nôl ar gyfer rhagor o waith caled yn y dyfodol agos.

Dywedodd: “Mae pob un ohonom yma yn Springfield yn diolch o waelod calon i Cyfle Cymru am eu hymdrechion yn creu ein llain llysiau.”

“Am waith tîm cymunedol gwych – ac mae’n edrych yn hynod broffesiynol hefyd. Rydym ni wirioneddol yn ei werthfawrogi, ac yn gobeithio nad hwn fydd y tro olaf i ni eu gweld.

“Fe wnaethant ymddwyn yn wych. Roeddynt yn gwrtais, ac yn ystyrlon o’n tenantiaid – ac yn bwysicach na dim, roeddynt yn frwdfrydig.”

Fe weithiodd George James arweinydd cynorthwyol fel mentor cymheiriaid ar brosiect Springfield ochr yn ochr â nifer o bobl sydd yn gobeithio gwella eu sgiliau a rhoi hwb i’w CV cyn symud ymlaen at waith.

“Fe roddodd ein gwirfoddolwyr ymdrech enfawr i wneud y gwaith yma ar gyfer aelodau hŷn o gymuned Rhosddu,” meddai.

“Gobeithio y bydd preswylwyr Springfield yn mwynhau gweld eu llysiau’n tyfu ac yn gallu mwynhau ffrwyth ein llafur.”

 

Hyd yn hyn, mae mwy na 4,700 o bobl wedi derbyn cefnogaeth gan fentoriaid cymheiriaid Cyfle Cymru trwy gydol gogledd Cymru, Gwent, Dyfed, Powys ac ardaloedd Bae’r Gorllewin.

Gyda’i gilydd, mae’r tîm wedi cyflwyno mwy na 71,000 awr o gefnogaeth, a helpu mwy na 1,000 o bobl i ennill cymhwyster neu dystysgrif newydd. Mae mwy na 600 o bobl wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau gwirfoddoli, gan wneud cyfraniad sylweddol i gymunedau ar hyd a lled Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai Cyngor Wrecsam: “Dwi’n gwybod y bydd preswylwyr Springfield yn gwerthfawrogi gwaith y gwirfoddolwyr gyda Cyfle Cymru, ac rydym yn arbennig o ddiolchgar – yn enwedig mewn gwres mor llethol!”

Am fwy o wybodaeth am Cyfle Cymru cliciwch yma, drwy ffonio 0300 777 2256, anfon e-bost ask@cyflecymru.com neu chwiliwch am Cyfle Cymru ar gyfryngau cymdeithasol.

 


Darperir Cyfle Cymru gan aelodau o Gonsortiwm DACW.

Mae Cyfle Cymru yn rhan o Wasanaeth Di-Waith Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

WEFO ESF OOWS

 

 

Share this:

  • Click to share on X (Opens in new window) X
  • Click to share on Facebook (Opens in new window) Facebook
  • Click to share on LinkedIn (Opens in new window) LinkedIn
  • Click to email a link to a friend (Opens in new window) Email

Ffeiliwyd Dan: Newyddion

Swyddi Diweddar

  • Academi fentora yn ennill gwobr fawr am hyfforddiant
  • Clirio mannau harddwch yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr
  • Martin Blakebrough – Prif Weithredwr, Kaleidoscope, a Chadeirydd DACW

Tanysgrifio drwy e-bost

Rhowch eich cyfeiriad e-bost i derby hysbysiadu o swyddi newydd drwy e-bost.

Os gwelwch yn dda rhannu DACW

Copyright/Hawlfraint © 2025 DACW

MENU
  • Croeso
  • Newyddion
  • Newid Cam
    • Newid Cam
    • Storiau Newid Cam
  • Cyfle Cymru
    • Am Cyfle Cymru
    • Gwasanaeth Di-Waith Gwent
    • Storiau Cyfle Cymru
    • Cylchlythyrau
  • Yfed Doeth Heneiddio’n Dda
    • Meddwl yn Ddoeth Heneiddio’n Dda
    • Hyfforddwyr MDdHDd yn agos atoch chi
  • Aelodau’r cydgwmni
  • Cyfarwyddwyr
  • Cysylltwch â ni
 

Loading Comments...