MAE GWIRFODDOLWYR o gwmni Cyfle Cymru wedi bod allan yn torri gordyfiant coedwigoedd yn Erddig ger Wrecsam yn ddiweddar.
Ychydig fisoedd yn ôl, roedd y goedwig yn orwyllt o dyfiant coed yn ôl ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – ond gyda chymorth cyfranogwyr y prosiect mentora cyfoedion, mae’r fflora a’r ffawna bellach yn gallu ffynnu a blodeuo unwaith eto.
Ddwywaith y mis, mae gwirfoddolwyr Cyfle Cymru yn ymuno â’r tîm yn Erddig i helpu gyda chynnal a chadw’r ystâd, plannu coed a rheoli llawr y goedwig. Gydag amser, y gobaith yw bydd eu gwaith yn helpu i annog mwy o fywyd gwyllt brodorol i ffynnu yn y tir.
Mae’r grŵp wedi cael eu hardal coetir eu hunain, ac maent bellach yn gyfrifol am ei gadw a’i gynnal. Mae swyddogion o Lywodraeth Cymru wedi ymweld â hwy er mwyn gweld eu gwaith caled.
Dan arweiniad CAIS, mae Cyfle Cymru yn brosiect mentora cyfoedion a ariennir gan yr UE sy’n gweithio gydag unigolion sydd â phrofiad o gamddefnyddio sylweddau a materion iechyd meddwl – ac yn rhoi cyfleoedd gwirfoddoli iddynt, mynediad at hyfforddiant a chefnogaeth i ddod o hyd i waith.
Mae Lucinda Schwarz, sy’n cymryd rhan yn rheolaidd yn nigwyddiadau Cyfle Cymru, yn mwynhau gwirfoddoli yn Erddig.
“Rydw i wedi bod yn dod i’r diwrnodau gwirfoddoli ers mis Medi, ac maen nhw wedi helpu i feithrin fy hunanhyder a gwneud i mi deimlo’n gyfforddus wrth weithio ymysg pobl eto,” meddai Lucinda sy’n 54 oed.
“Pan rydych chi’n dod wythnos ar ôl wythnos, rydych chi’n dechrau gweld yr un wynebau cyfarwydd ac rydym yn dechrau siarad a rhannu straeon ac ymddiried yn ein gilydd.
“Nid yn unig dw i’n dysgu sgiliau newydd, ond dw i hefyd yn dysgu llawer amdanaf fi fy hun!”
Amlygodd Mark Dobson, gwirfoddolwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol bwysigrwydd clirio coed ymledol a rhywogaethau planhigion, gan wneud lle i goed eraill dyfu a denu mwy o fywyd gwyllt i’r goedwig.
“Mae’n bwysig i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ein bod yn diogelu’r tir a’i gadw ar gyfer y cenedlaethau i ddod,” meddai.
“Trwy glirio gofod a phlannu coed, rydym yn buddsoddi i’r presennol a’r dyfodol. Rydym yn cael effaith gadarnhaol ar y tir am gannoedd o flynyddoedd – a thrwy hynny, bydd y coed newydd hyn yn cyrraedd eu llawn dwf . “
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Wasanaeth Allan o Waith Llywodraeth Cymru. Mae cyfranogwyr eisoes wedi elwa o fwy na 50,000 awr o fentora effeithiol, ac wedi ymrwymo mwy na 10,000 awr o’u hamser eu hunain i wirfoddoli ar hyd a lled Cymru.
Dywedodd y mentor cyfoedion George James fod cyfranogwyr o ardal Wrecsam yn hoff o weithio’n galed yn yr awyr agored ochr yn ochr â cheidwaid, a gwirfoddolwyr o’r asiantaeth bartner ARCH Cymru.
“Rydw i wedi gweld trawsnewidiad llawn o diroedd Erddig dros y misoedd diwethaf – ond yn bwysicach i mi mae gweld yr effaith mae’r rhaglen wedi’i gael ar yr unigolion sy’n cymryd rhan wedi bod hyd yn oed yn fwy gwerthfawr,” meddai.
Dywedodd rheolwr cyffredinol Erddig, Jamie Watson, ei fod yn ddiolchgar i bawb sydd wedi ymwneud â’r prosiect am eu cyfraniad i’r gwaith ar y safle.
“Mae pobl yn gwneud lleoedd a lleoedd yn gwneud pobl; mae ein prosiect gwirfoddoli CAIS a Cyfle Cymru yn enghraifft mor dda o hyn, “meddai.
“Mae’n werth chweil clywed yr adborth hyn gan wirfoddolwyr a gweld y gwahaniaeth y mae’r bartneriaeth hon yn ei wneud.”
Darganfyddwch fwy am Cyfle Cymru trwy fynd i www.dacw.co.uk neu ffoniwch 0300 777 2256.
Darperir Cyfle Cymru gan aelodau o Gonsortiwm DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Wasanaeth Di-Waith Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.