• Croeso
  • Newyddion
  • Newid Cam
    • Newid Cam
    • Storiau Newid Cam
  • Cyfle Cymru
    • Am Cyfle Cymru
    • Storiau Cyfle Cymru
    • Cylchlythyrau
  • Yfed Doeth Heneiddio’n Dda
  • Aelodau’r cydgwmni
  • Cyfarwyddwyr
  • Cysylltwch â ni

DACW - Developing a Caring Wales

Providing a complete range of services for people affected by alcohol and drug misuse and mental health difficulties

  • EnglishEnglish
  • CymraegCymraeg
You are here: Home / Storiau Newid Cam / Ronnie Devlin – Stori Mentor Cyfoedion

Ronnie Devlin – Stori Mentor Cyfoedion

Mae gan Ronnie Devlin her o’i flaen. Mae’n rhan o gamau cyntaf y rhaglen mentora cyfoedion cyn-filwr i gyn-filwr, Newid Cam, ac mae o, ynghyd â gweddill y tîm Newid Cam, yn cefnogi cyflwyno’r prosiect am y tro cyntaf ar draws Cymru gyfan.

Mae Ronnie yn Filwr Prydeinig trwyddo draw, ac mae wedi gwasanaethu dros ei wlad am dros 26 mlynedd mewn llefydd mor bell â Gogledd Iwerddon, Cyprus, Canada ac Irac lle’r oedd yn Gadlywydd Amryfal ar dîm o ddeg. Yn fwy diweddar, bu’n Affganistan yn 2010 lle’r oedd yn Sarsiant y Fyddin.

Dechreuodd ei broblemau tra’r oedd yn Affganistan a phan ddaeth yn ôl i Brydain roedd o’n ei chael hi’n anodd derbyn bod llawer o’i ddynion allan yn brwydro o hyd. Penderfynwyd ei fod yn dioddef o PTSD.

Dywedodd Ronnie, “Y peth da am Newid Cam ydy ein bod ni’n gweld dynion sy’n ei chael hi’n anodd siarad am eu problemau ond rydw i wedi bod yno fy hun, ei brofi fy hun a’i weld gyda’m llygaid fy hun! Pan rydych chi wedi bod trwy hyn eich hun ac yn hapus i siarad am eich profiadau, mae’n gwneud i gyn-filwyr eraill ymlacio fwy ac maen nhw’n fuan yn datgelu mwy o’u pryderon eu hunain. Mae wedi gweithio i mi a gall yn sicr weithio i’r cyn-filwr nesaf sy’n dioddef yn dawel.”

Mae Newid Cam eisoes yn cydweithio gyda nifer o wasanaethau gan gynnwys GIG Cymru i Gyn-filwyr, y Lleng Brydeinig Frenhinol a’r Heddlu i sicrhau gwasanaeth cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar gyn-filwyr y Lluoedd Arfog. Wrth inni gyflwyno Newid Cam ar draws Cymru yn ystod 2014 mae’r tîm yn recriwtio gwirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn dod yn fentoriaid cyfoedion Newid Cam.

Rhannu hwn:

  • Clicio i'w rannu ar Twitter (Opens in new window)
  • Click to share on Facebook (Opens in new window)
  • Click to share on LinkedIn (Opens in new window)
  • Click to share on Google+ (Opens in new window)

Filed Under: Storiau Newid Cam

Swyddi Diweddar

  • Rachel: “mae’r mentoriaid i gyd wedi chwarae rhan wrth fy helpu i wella”
  • Michael: “ar siwrnai newydd o ddysgu sgiliau newydd”
  • Ross: “Rhoddodd Cyfle Cymru synnwyr o bwrpas i mi”

Tanysgrifio drwy e-bost

Rhowch eich cyfeiriad e-bost i derby hysbysiadu o swyddi newydd drwy e-bost.

Os gwelwch yn dda rhannu DACW

Copyright/Hawlfraint © 2018 DACW

MENU
  • Croeso
  • Newyddion
  • Newid Cam
    • Newid Cam
    • Storiau Newid Cam
  • Cyfle Cymru
    • Am Cyfle Cymru
    • Storiau Cyfle Cymru
    • Cylchlythyrau
  • Yfed Doeth Heneiddio’n Dda
  • Aelodau’r cydgwmni
  • Cyfarwyddwyr
  • Cysylltwch â ni