Ers iddo gael ei gyfeirio gan Wasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed ar ddiwedd 2017, mae Robert wedi gweithio ei ffordd drwy adegau tywyll iawn.
Roedd Robert, 61, eisiau darganfod sut y gallai ail-ffocysu ei fywyd a chael ymdeimlad o falchder a rhannu hynny gyda’i ferch.
Lansiodd Cyfle Cymru yn Sir Benfro gystadleuaeth Ysgrifennu Creadigol, ac eglurodd Robert ei fod wedi “dal fy nychymyg a gwneud i mi sylweddoli bod cyfle i gysylltu ag eraill trwy stori neu gerdd a fyddai’n gallu disgrifio fy siwrnai”.
Cyflwynodd Robert ceisiadau ysgytwol a feirniadwyd y cyfan gan Sophie McKeand, Llawryfog Pobl Ifanc Cymru, ac meddai “Mae hanesion fel hyn yn anodd eu rhannu, sef yr hyn sy’n eu gwneud mor bwysig.” Fe benderfynodd bod ceisiadau Robert yn gydradd fuddigol ac y bydd yn derbyn dosbarth meistr mewn ysgrifennu creadigol gyda Sophie yn y dyfodol agos.
Mae Robert bellach yn symud ymlaen i gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau y tu allan fel Gwobr John Muir, garddio a theithiau natur ac mae wedi nodi sawl gwaith ei fod yn teimlo y byddai ar goll yn llwyr heb gyfleon Cyfle Cymru.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, a gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.