Mae Elusennau Cyffuriau ac Alcohol Cymru wedi amlygu ei ymrwymiad i’r lluoedd arfog trwy arwyddo Cyfamod Corfforaethol gyda’r Gweinidog Amddiffyn.
Mae’r cytundeb – gafodd ei arwyddo gan Clive Wolfendale, cyfarwyddwr DACW, ar ran y cydgwmni – wedi’i gofrestru’n ffurfiol gyda Llywodraeth Prydain.
Mae partneriaid DACW eisoes yn rhoi cefnogaeth effeithiol ac arloesol i gyn-filwyr y lluoedd arfog a’u teuluoedd trwy’r prosiect Newid Cam – gwasanaeth mentora cyfoedion a chynghori sydd wedi helpu cannoedd o bobl trwy Gymru ers ei lansio.
Fel rhan o’r cytundeb newydd, mae DACW wedi addo dangos ymrwymiad y mudiad trwy:
- hyrwyddo ei statws fel mudiad sy’n cefnogi’r lluoedd arfog,
- ceisio dod o hyd i waith i gyn-filwyr, a
- chymryd rhan yn llawn yn nathliadau blynyddol Diwrnod y Lluoedd Arfog.
Mae’r cyfamod hefyd yn golygu bod DACW yn ymrwymo i sicrhau fod yr un aelod o gymuned y lluoedd arfog dan anfantais, ac yn cydnabod efallai y bydd angen rhoi triniaeth arbennig i rai pobl sydd wedi brifo neu yn galaru.
Mae partneriaid DACW eisoes yn cyflogi 20 o gyn-filwyr fel mentoriaid cyfoedion Newid Cam ac yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i lawer iawn mwy. Mae’r holl staff yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r hyn gall Newid Cam ei gynnig fel rhan o’u gwaith.
Mae adborth yn dangos bod ein dull yn gweithio, a bod cleientiaid yn gwerthfawrogi ein cymorth a’n cyngor ymarferol yn ddirfawr.
Cafodd Newid Cam ei lansio ym mis Ionawr 2014 ac fe gaiff ei ddarparu gan y pum partner sy’n cydweithio gyda DACW – CAIS, Drugaid, WCADA, TEDS a Kaleidoscope – er mwyn sicrhau bod gwasanaeth ar gael ar draws Cymru gyfan.