Alun ydy prif weithredwr Hafal, prif elusen Cymru ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol a’u teuluoedd. Mae Hafal yn fudiad sydd wedi’i arwain gan ei aelodau ac yn cefnogi dros 1,300 o bobl ar draws Cymru bob dydd.
Mae Alun yn nyrs gofrestredig ac mae wedi gweithio i’r GIG, llunio gwasanaeth adfer niwrolegol yn y sector gofal iechyd preifat, ac erbyn hyn, gyda Hafal, mae’n gweithio ar ddatblygu cyfleuster i gleifion mewn ysbytai sydd wedi’i arwain gan y cleifion a’i redeg gan yr elusen. Mae ganddo brofiad personol o fod yn ofalwr i aelod o’i deulu gyda phroblemau iechyd meddwl parhaol.
Yn ddiweddar, bu i Alun dderbyn gradd dosbarth cyntaf LLB (Anrh) gyda’r Brifysgol Agored. Roedd eisoes wedi cwblhau gradd MA mewn Moeseg Llesiant Cymdeithasol yn Keele, gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd hyrwyddo ymreolaeth ac osgoi perthynas nawddoglyd gyda phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol er mwyn iddyn nhw ddysgu i wneud penderfyniadau cynaliadwy mewn bywyd wrth iddyn nhw wella. Mae’r gwaith hwn a natur o rymuso parhaol y mudiad wedi rhoi brwdfrydedd i Alun tuag at ddatblygu hawliau pellach i bobl sy’n gwella o broblemau iechyd meddwl difrifol. Mae ei astudiaethau PhD presennol yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe yn edrych ar sut mae deddfwriaethau penodol Cymru yn gallu darparu hawliau ychwanegol i gleifion trwy fod ag agwedd fwy sylfaenol tuag at gydraddoldeb.
Mae Alun wedi rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan a Llywodraeth Cymru ar ddatblygiad Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) ac roedd ganddo ran fawr hefyd yn yr ymgyrch yn erbyn drafft y Bil Iechyd Meddwl 2002 yn San Steffan ac yng Nghaerdydd.