Mae Andy wedi cwblhau nifer o gyrsiau ers iddo ymuno â Cyfle Cymru – ac mae ganddo bellach gymwysterau mewn hylendid bwyd, iechyd a diogelwch ac ymwybyddiaeth asbestos.
Mae’n mynd i nifer o grwpiau gyda’r tîm adfer ac yn gwirfoddoli gyda’r Clwb Brecwast yn y Goleudy ym Mhont-y-pŵl.
Mae’r clwb wythnosol yn rhoi brecwast am ddim i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cefnogi yn yr ardal.
Mae Andy, sydd wedi bod yn gweithio gyda Cyfle Cymru yng Ngwent dros y chwe mis diwethaf, wedi dechrau hwyluso grwpiau eraill – gan gynnwys sesiynau garddio a cherdded rheolaidd.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.