Mae gan Bernie radd Meistr mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol (MSc) a dros 13 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol. Ei nod yw darparu gwasanaethau sy’n rhywedd-wybodus er mwyn gwella bywydau menywod sy’n cael eu stigmateiddio gan weddill cymdeithas neu sy’n anweladwy i weddill cymdeithas.
Mae’r grŵp hwn yn cynnwys gweithwyr rhyw, puteiniaid, defnyddwyr sylweddau, pobl sy’n ddigartref ar y stryd, dioddefwyr cam-drin domestig neu drais rhywiol, dioddefwyr cam-fanteisio rhywiol neu fasnachu pobl a’r rhai hynny sy’n disgyn i fwy nag un o’r categorïau hyn, h.y. pobl sydd angen difrifol a lluosog, a phobl sydd o bosibl ag anghenion iechyd meddwl. Mae hi’n credu y gall y menywod hyn gyrchu gwell cymorth mewn lleoliadau cymunedol, ac nid yn y carchar.