Gyda diffyg hyder a sawl rhwystr oedd yn ei rwystro rhag dod o hyd i waith, daeth Brynley at Cyfle Cymru ar ôl clywed am y gwasanaeth yn y Ganolfan Byd Gwaith lleol yng Nghasnewydd.
Trwy weithio gyda’r prosiect, roedd yn gallu magu hyder, dysgu sgiliau newydd a mynd i’r afael a’r hyn oedd yn ei ddal yn ôl.
Mae ei ymdrechion wedi arwain at swydd gyflogedig fel Mentor Cyfoedion Iechyd Meddwl gyda Cyfle Cymru.
Ddau fis yn ddiweddarach ac mae Brynley yn mwynhau ei swydd newydd a chael datblygu ymhellach – mae’r tîm yng Nghasnewydd yn falch ei fod wedi ymgartrefu yn ei waith o helpu pobl eraill.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.