Caroline Phipps ydy prif weithredwr Barod. Mae Barod yn fudiad trydydd sector sy’n cynnig llawer o wasanaethau gwahanol i bobl a theuluoedd sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ar draws de Cymru. Mae hi wedi gweithio yn y maes hwn ers 18 mlynedd a chyda Barod ers 15 mlynedd.
Mae hi’n aelod o Fyrddau Cynllunio Ardaloedd Gwent a Chwm Taf ac yn cadeirio’r Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau. Mae hi’n cynrychioli rhwydwaith camddefnyddio sylweddau y trydydd sector ar y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Genedlaethol.
Caroline ydy cadeirydd gweithgor Adfer Llywodraeth Cymru. Cafodd y grŵp hwn ei greu a’i arwain o ganlyniad i weithredu’r Fframwaith Adfer i Gymru gafodd ei lansio ym mis Chwefror 2014. Mae hi’n teimlo’n frwdfrydig am gynnig gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar adfer a chynnwys y cleientiaid ym mhob agwedd o waith cynllunio a darparu’r gwasanaeth.