Buaswn i’n hoffi cymryd y cyfle hwn i ddiolch i Phil ac i CAIS (Newid Cam) am y gwasanaeth hynod o werthfawr rydw i wedi’i dderbyn hyd yma. Mae gwybod bod Phil a’r holl gefnogaeth arall ar gael ar ben arall y ffôn yn hynod o bwysig imi ar hyn o bryd.
Mae Phil yn fy ffonio i’n aml i holi sut ydw i ac am yr hyn rydw i’n ei wneud. Mae o bob tro yno pan fydd pethau’n dechrau mynd yn drech a bod angen imi ofyn am gymorth, hyd yn oed os nad oes angen iddo wneud unrhyw beth. Mae cael Phil yn gwmni yn y cyfarfodydd gwasanaethau cymdeithasol wedi bod o gymorth enfawr.
Dydw i ddim yn ceisio lledawgrymu unrhyw beth, ond rydw i’n teimlo bod y bobl broffesiynol yn fy nhrin i’n wahanol pan dydy Phil ddim yna. Rydw i erbyn hyn yn credu fod ei bresenoldeb yn hanfodol er mwyn caniatáu tegwch i mi a’m plant.
Mae Phil hefyd wedi dod i’r orsaf heddlu fel fy oedolyn addas pan oedd angen ac rydw i bron yn sicr, petawn i heb gael cymorth ganddo, y buaswn i o bosibl yn ysgrifennu hwn o lyfrgell carchar!
Weithiau, mae fy emosiynau yn gallu bod yn eithaf anodd eu rheoli ac mae Phil bron iawn bob tro yn gallu fy helpu i’w cadw dan reolaeth, rhywbeth y gall dim ond cyn-filwr arall ei wneud. Rydw i’n siŵr ei bod hi’n gallu bod yn eithaf rhwystredig iddo weithiau, gan fy mod i’n gallu tueddu i gymhlethu pethau. Er hynny, mae o bob tro’n amyneddgar, yn garedig ac yn feddylgar ond, os a phan fydd angen, bydd hefyd yn fy rhoi i yn fy lle, sydd weithiau’n hanfodol i mi, er nad ydw i bob tro’n ei werthfawrogi ar y pryd! (Sori a diolch o flaen llaw am y tro nesaf!!)
Yn ddiweddar bu i Phil dderbyn cyngor ardderchog ynglŷn â fy nghyflwyno yn ôl i waith. Rydw i newydd gwblhau diploma mewn peirianneg, wedi’i ariannu gan SSAFA, a chyda diolch i’r cyngor ardderchog hwn rydw i wedi gallu dechrau gwneud pethau yn fy sied gyda chymorth yr Asiantaeth Fudd-daliadau ayb. Hyd yma rydw i wedi gwneud rhai byrddau ac wrthi’n gweithio rŵan ar drawsnewid hen goffr yn llosgwr coed. Mae gallu gwneud hyn yn dod â dwy fantais imi. Yn gyntaf, mae’n gadael imi ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar sy’n hanfodol er mwyn imi wella. Yn ail, mae’n rhoi cymaint o obaith imi y galla’ i roi’r gorau i dderbyn budd-daliadau rhyw ddiwrnod a dechrau darparu’n iawn dros fy nheulu. Dyna’r cwbl ydw i eisiau mewn bywyd.
Rydw i’n mynd i’r clinig Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) unwaith y mis ac er ei fod yn anodd mae hefyd yn gyfle gwych i gael bod yng nghwmni’r bechgyn. Fe wnaeth hyn, ynghyd â chyngor Phil, fy annog i gymryd rhan mewn gwaith gwirfoddoli gyda’r grŵp Cofio Ein Harwyr trwy dacluso ac edrych ar ôl beddi cyn-aelodau’r lluoedd arfog. Dim ond unwaith ydw i wedi gwneud hyn ond roedd hi’n braf treulio ychydig amser gyda’r bechgyn ac fe wnaeth imi deimlo’n falch iawn a theimlo fy mod i wedi cyflawni rhywbeth. Mi fydda’ i felly yn gwneud hyn gymaint ag y galla’ i o hyn ymlaen.
Byddaf yn derbyn cefnogaeth seicolegol gan wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr yn fuan ar ôl i Phil Williams o Newid Cam fy nghyfeirio ato. Fyddai dim o hyn wedi digwydd oni bai am Phil a phawb arall yn CAIS. Felly, unwaith eto, buaswn i’n hoffi diolch ichi i gyd o waelod fy nghalon am yr hyn rydych chi’n ei wneud, rydych chi i gyd yn bobl arbennig.