Roeddwn yn ddi-waith am amser maith cyn imi gael fy nghyfeirio at Cyfle Cymru wedi imi ddangos brwdfrydedd at weithio yn y maes dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau (mae hyn yn sgil fy mhrofiad fy hun o driniaeth a gwella).
Bu imi gwblhau tri chwrs: diogelwch a hylendid bwyd ar gyfer arlwyo, agweddau ac ymddygiadau cadarnhaol ac ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf. Roedd pob un o’r tri yn ddifyr a llawn gwybodaeth ac roeddwn yn teimlo fel fy mod i wedi cyflawni rhywbeth. Roedd hyd yn oed cyflwyniad ffurfiol lle bu inni dderbyn y tystysgrifau a oedd yn fendigedig ac roeddwn yn ddiolchgar iawn – ac, oedd, mi oedd yna gacennau!
Rydw i wedi cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau gwirfoddol, yn bennaf yn helpu tacluso ardaloedd lleol fel coedwigoedd, parciau a thraethau. Roedd yn wych medru cymdeithasu a sgwrsio gydag aelodau eraill y grŵp yn ogystal â chadw’n heini a mwynhau’r awyr agored. Roedd hefyd cwis a seremoni gwobrwyo i’r gwirfoddolwyr.
Rydw i’n cyfarfod gyda fy mentro cyfoedion yn rheolaidd. Rydym yn sgwrsio am unrhyw bryderon sydd gen i ac os yn briodol, mae’n fy nghyfeirio at unrhyw fudiadau all helpu. Mae’r holl staff yn ddymunol, cymwynasgar a hawddgar.
Bu i’r gweithgareddau, cyfarfodydd a chyrsiau i gyd lenwi gwagle yn fy mywyd fel petai. Cyn ymuno â’r prosiect, doedd gen i ddim CV cyfredol hyd yn oed heb sôn am unrhyw beth i ychwanegu ato. Yn ddiweddar bu imi gwblhau hyfforddiant i wirfoddoli ar ran Cyfle Cymru. Bu hyn, yn ogystal â phopeth arall y bu imi ei gyflawni gynnig profiad a gwybodaeth werthfawr imi ac rydw i’n teimlo fel fy mod i’n symud yn y cyfeiriad cywir i fedru fynd ati i gyflawni fy nod.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.