Mae Craig ac Aled o Lanelli – sy’n gwneud popeth gyda’i gilydd – wedi magu hyder ers iddynt ddechrau gwirfoddoli gyda Sefydliad Prydeinig y Galon, gyda chymorth Cyfle Cymru.
Rhoddodd Cyfle Cymru gyfleoedd i Craig ac Aled dyfu, gan gynnwys diwrnodau adeiladu tîm, glanhau traeth, a chyrsiau iechyd a diogelwch a gwasanaeth cwsmeriaid.
Maent wedi cael adborth ardderchog gan eu rheolwr yn y siop, ac maent yn dangos addewid mawr yn eu datblygiad parhaus.
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Mae Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, a gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.