Mae DACW, y cydgwmni cenedlaethol ar gyfer camddefnyddio sylweddau, wedi mabwysiadu brand newydd wrth iddo groesawu’r elusen iechyd meddwl, Hafal, fel ei aelod diweddaraf.
Bydd y grŵp newydd ei faint yn canolbwyntio ar Ddatblygu Cymru Gofalgar.
Dywedodd Clive Wolfendale, ysgrifennydd DACW: “Mae ein brand newydd yn cyfleu uchelgais pwysicaf DACW i wneud Cymru yn lle mwy gofalgar i bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl – ac i sicrhau fod pawb yn cael cyfle teg a gwerthfawr i wella eu bywydau.
“Rydym ni wrth ein boddau bod Hafal wedi ymuno â’r cydgwmni ac yn edrych ymlaen at gydweithio gydag Alun a’i dîm er mwyn helpu i wella’r dewis a’r gwasanaethau sydd ar gael ledled y wlad.”
Bu i Mr Wolfendale hefyd ganmol ymdrechion cyn-gyfarwyddwr DACW, Lynn Bennoch, sydd wedi tynnu’n ôl o’r cydgwmni ar ôl gwasanaethu am bedair blynedd. Bydd Jean Harrington o TEDS yn Aberdâr, yn cymryd ei lle fel cadeirydd.
Dywedodd Alun Thomas, prif weithredwr Hafal: “Mae aelodau Hafal, pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol a’u teuluoedd a’u gofalwyr wedi gofyn ers talwm am wasanaethau cynhwysfawr i bobl mewn argyfwng.
“Mae’r cydweithio gyda DACW yn cynnig cyfleoedd gwych i lunio gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y bobl a’u hanghenion, eu dewisiadau, eu gobeithion a’u dyheadau. Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio ar draws Cymru fel rhan o DACW.”