BU I WIRFODDOLWYR fu’n camddefnyddio sylweddau ac a fu’n dioddef trafferthion iechyd meddwl ddathlu eu gwellhad drwy fynd ati i ofalu fod Bangor yn fwy deniadol yn yr haf eleni.
Bu i’r tîm, o brosiect Cyfle Cymru wedi ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd, lanhau graffiti a phosteri diangen o siopau gwag ar y Stryd Fawr ac aethon nhw ati i ddechrau tacluso Gerddi Beibl canol y dref a chael gwared ar ddail, ysbwriel a chwyn.
Bwriad y grŵp, wedi ei gefnogi gan Ardal Gwella Busnes Bangor a Chyngor Dinas Bangor, ydy cynnal mwy o ddigwyddiadau gwirfoddoli. Ymysg y digwyddiadau mae, mynd i’r afael ag erydiad ar Fynydd Bangor, gwaith cynnal a chadw ar Pier Bangor a mwy o waith tacluso ac ati ger Eglwys Gadeiriol Bangor.
Phrofiad gwaith mewn swyddi go iawn
Mae Mentoriaid Cyfoedion Cyfle Cymru yn helpu pobl wedi eu heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau a chyflyrau iechyd meddwl wrth roi hwb i’w hyder a chynnig cefnogaeth er mwyn iddyn nhw fanteisio ar hyfforddiant a phrofiad gwaith ac ennill cymwysterau.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli yn y gymuned a phrofiad gwaith mewn swyddi go iawn – ynghyd â chymorth penodol i ddod o hyd i swyddi a cheisio amdanyn nhw.
Dywedodd y cynghorydd gwaith, Beverley Jones yr oedd y gweithgareddau yng nghanol dinas Bangor yn help i wirfoddolwyr ddangos eu gwir botensial.
Dywedodd “Mae mentoriaid cyfoedion Cyfle Cymru yn helpu pobl i gymryd camau sylweddol a chadarnhaol yn eu bywydau.”
“Ac mae digwyddiadau gwirfoddoli fel y rhain yn hynod fuddiol i’r bobl yr ydym yn cydweithio gyda nhw, yn enwedig y rheiny bu’n dioddef trafferthion iechyd meddwl yn y gorffennol.
“Mae bod yng nghwmni eraill, mwynhau’r awyr agored a gweithio i wella’r gymuned wir yn helpu codi hunan-hyder ac mae’n fuddiol dros ben i ddinas Bangor hefyd!”
Llawer mwy o gyfleoedd
Dywedodd Emlyn Williams o Gyngor Dinas Bangor y bu’n bleser gan y Cyngor gynnig yr offer oedd ei angen ar y gwirfoddolwyr.
Dywedodd “Mae hyn yn effaith arbennig o’r gymuned yn cydweithio er mwyn helpu’r rheiny sydd angen cefnogaeth i anghofio am eu gorffennol a theimlo’n hyderus wrth edrych ymlaen at y dyfodol.”
“Mae’n fuddiol ar gyfer dinas Bangor, y cyhoedd, busnesau a’r bobl ynghlwm. Rydw i’n meddwl y bydd llawer mwy o gyfleoedd inni gydweithio yn y dyfodol.”
Darperir Cyfle Cymru gan DACW.
Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.