• Croeso
  • Newyddion
  • Newid Cam
    • Newid Cam
    • Storiau Newid Cam
  • Cyfle Cymru
    • Am Cyfle Cymru
    • Gwasanaeth Di-Waith Gwent
    • Storiau Cyfle Cymru
    • Cylchlythyrau
  • Yfed Doeth Heneiddio’n Dda
    • Meddwl yn Ddoeth Heneiddio’n Dda
    • Hyfforddwyr MDdHDd yn agos atoch chi
  • Aelodau’r cydgwmni
  • Cyfarwyddwyr
  • Cysylltwch â ni

DACW - Developing a Caring Wales

Providing a complete range of services for people affected by alcohol and drug misuse and mental health difficulties

  • English
  • Cymraeg
Rydych chi yma: Hafan / Newyddion / Gwirfoddolwyr yn ennill gwobrau Mis Adferiad am eu hymroddiad mewn mannau prydferth

Gwirfoddolwyr yn ennill gwobrau Mis Adferiad am eu hymroddiad mewn mannau prydferth

MAE GWIRFODDOLWYR sydd wedi rhoi cannoedd o oriau o’u hamser eu hunain er mwyn helpu i gynnal a chadw dau o leoliadau prydferthaf Cymru wedi cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion.

Casglodd gyfranogwyr rhaglenni mentora cyfoedion Cyfle Cymru ac Affinedd dystysgrifau i nodi eu hymdrechion yn Neuadd Erddig a Pharc Gwepra mewn seremoni raddio arbennig.

Mae’r cynlluniau yn helpu pobl sydd â phrofiad o gamddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl gwael i ennill sgiliau a ffocws newydd, gan symud ymlaen gyda’u hadferiad.

Cloddio, plannu ac adnewyddu

Mewn cydweithrediad â cheidwaid cefn gwlad Cyngor Sir y Fflint a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, maent wedi helpu i glirio coetiroedd a phrysgwydd, trwsio ffensys, casglu sbwriel, rheoli dolydd, cloddio, plannu ac adnewyddu gerddi yn y ddau safle dros y 12 mis diwethaf.

Dywedodd y gwirfoddolwr, Rob Clark (58), o Wrecsam, fod gweithio gyda’r grŵp yn Erddig wedi bod yn brofiad hynod o werthfawr iddo.

“Rwy’n hoffi gweithio tu allan,” meddai Rob. “Pan fyddwch chi’n cyrraedd yno, rydych chi’n meddwl ei bod mor fawr na fyddwch chi’n gallu gwneud gwahaniaeth – ond mae’n syndod beth allwch chi ei gyflawni!

“Rwy’n hoff o’r ffaith ‘mod i’n gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned a chwrdd â phobl – ac rydych chi wastad yn cwrdd â phobl newydd.”

Gwahaniaeth go iawn

Dywedodd y mentor cyfoedion George James o Wrecsam, fod y gwirfoddolwyr wedi gwneud gwahaniaeth go iawn yn Erddig a Gwepra.

“Mae’r ddau leoliad wedi cynnig cefnogaeth wych i’n gwirfoddolwyr, ac wedi rhoi cyfle iddynt gymysgu ag eraill, meithrin eu hyder a’u hunan-barch, ac ennill sgiliau cyflogadwyedd newydd,” meddai.

“Rwy’n gwybod bod y ddau wir yn gwerthfawrogi help a chefnogaeth ein gwirfoddolwyr, a bod ein gwirfoddolwyr wedi gallu gwneud camau gwych wrth roi rhywbeth yn ôl i’r ardal y mae’n nhw’n byw ynddi.”

Nodi Mis Adfer

Mae Cyfle Cymru yn cynnig cymorth mentora cymheiriaid a chyflogaeth fel rhan o Wasanaeth Di-Waith yr UE a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac fe’i harweinir gan CAIS ar draws rhanbarthau Gogledd Cymru, Powys, Dyfed, y Bae Gorllewinol a rhanbarthau Gwent. Mae’r rhaglen eisoes wedi helpu mwy na 2,300 o bobl yng Nghymru ac wedi darparu dros 25,000 awr o gymorth yn y gymuned.

Mae Affinedd, sef partneriaeth rhwng ARCH Cymru a CAIS, yn darparu triniaeth ac ymyriadau effeithiol ar gyfer pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn y system cyfiawnder troseddol.

Roedd y seremoni raddio yn un o nifer o ddigwyddiadau a luniwyd i helpu i nodi Mis Adfer – sy’n cael ei ddathlu’n flynyddol gan bobl mewn adferiad bob mis Medi.

Iechyd a lles

Roedd hefyd yn cynnwys cyflwyniad i gyfranogwyr rhaglen iechyd a lles ARCH Cymru, dangosiad cyntaf ffilm newydd gan gwmni cynhyrchu Eternal Media a enillodd BAFTA, a gwobrau i’r rheiny wnaeth gwblhau cyrsiau a gynigir gan Adferiad Adfywio.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddau Gogledd Cymru Arfon Jones ei fod yn wych cael y cyfle i gyflwyno gwobrau yn y digwyddiad, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Gwepra, am yr ail dro ers blynyddoedd.

“Rwy’n hynod gefnogol o’r ymdrechion i gael triniaeth i’r bobl hynny sydd wir ei angen, ac rwy’n mwynhau clywed am y llwyddiannau y maent yn eu cyflawni,” ychwanegodd Mr Jones.

 


Darperir Cyfle Cymru gan DACW.

Cyfle Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru Gwasanaeth Di-Waith, gefnogir gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

WEFO ESF OOWS

Share this:

  • Click to share on X (Opens in new window) X
  • Click to share on Facebook (Opens in new window) Facebook
  • Click to share on LinkedIn (Opens in new window) LinkedIn
  • Click to email a link to a friend (Opens in new window) Email

Ffeiliwyd Dan: Newyddion

Swyddi Diweddar

  • Academi fentora yn ennill gwobr fawr am hyfforddiant
  • Clirio mannau harddwch yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr
  • Martin Blakebrough – Prif Weithredwr, Kaleidoscope, a Chadeirydd DACW

Tanysgrifio drwy e-bost

Rhowch eich cyfeiriad e-bost i derby hysbysiadu o swyddi newydd drwy e-bost.

Os gwelwch yn dda rhannu DACW

Copyright/Hawlfraint © 2025 DACW

MENU
  • Croeso
  • Newyddion
  • Newid Cam
    • Newid Cam
    • Storiau Newid Cam
  • Cyfle Cymru
    • Am Cyfle Cymru
    • Gwasanaeth Di-Waith Gwent
    • Storiau Cyfle Cymru
    • Cylchlythyrau
  • Yfed Doeth Heneiddio’n Dda
    • Meddwl yn Ddoeth Heneiddio’n Dda
    • Hyfforddwyr MDdHDd yn agos atoch chi
  • Aelodau’r cydgwmni
  • Cyfarwyddwyr
  • Cysylltwch â ni
 

Loading Comments...